Beth yw trawsgrifiad?
Bydd trawsgrifiadau is-radd ar gyfer cyrsiau a ddilynwyd ar ôl modiwlareiddio (1990/91 ymlaen ar gyfer cyrsiau'r Gwyddorau, 1994/5 ymlaen ar gyfer y Celfyddydau) yn cynnwys teitl pob modiwl unigol yn ogystal â marc canrannol cyffredinol. Cyn y cyfnodau hyn, gallwn ddarparu meysydd pwnc cyffredinol yn unig gyda gradd gyffredinol.
Bydd trawsgrifiadau cyrsiau Ôl-radd a ddysgir fel arfer yn cynnwys rhestr o fodiwlau a gymerwyd yn ogystal â marciau/graddau a gafwyd. Fodd bynnag, oherwydd y bydd angen cael y wybodaeth hon gan adrannau unigol sy'n addysgu, bydd hyn yn dibynnu ar ba gofnodion sydd wedi cael eu cadw.
Bydd pob trawsgrifiad yn rhoi cadarnhad o ddyddiadau cofrestru a'r cymhwyster a gafwyd.