Pryd a sut ydw i’n cyflwyno fy thesis/traethawd hir?
Mae dyddiadau cyflwyno ar gyfer Graddau Meistr hyfforddedig a Graddau Ymchwil yn amrywio, yn dibynnu pryd gwnaethoch ddechrau eich astudiaethau. Yn gyffredinol, disgwylir i’r rhan fwyaf o Fyfyrwyr Meistr llawn-amser gyflwyno eu traethawd hir erbyn diwedd eu cyfnod cofrestredig ac mae gan fyfyrwyr ymchwil llawn-amser 12 mis ychwanegol o ddiwedd eu cyfnod cofrestredig i gyflwyno eu thesis. Mae dyddiadau cyflwyno i fyfyrwyr rhan-amser yn amrywio'n fawr; felly dylech gysylltu â'r Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr os ydych yn ansicr beth yw eich dyddiad cyflwyno.
Cyn y gellwch gyflwyno eich thesis / traethawd hir bydd angen i chi lenwi a chyflwyno Ffurflen Cyflwyno Traethawd Hir SD1. Gellir ei llwytho i lawr yn
www.bangor.ac.uk/student-administration/publications/forms.php.cy