Cymrodoriaethau Dysgu
Amcanion Cynllun Cymrodoriaeth Ddysgu Bangor
- Cydnabod pwysigrwydd dysgu ardderchog, gwella profiad dysgu myfyrwyr, a’r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr.
- Cydnabod unigolion sydd wedi cael dylanwad helaeth ar ddysgu ym Mangor.
- Dathlu ymrwymiad y brifysgol i ragoriaeth dysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr.
Nifer i’w dyfarnu
Nid oes cyfyngiad ar nifer y cymrodoriaethau y gellir eu dyfarnu bob blwyddyn. Serch hynny gall y pwyllgor dewis yn ôl ei doethineb gyfyngu ar nifer y cymrodoriaethau er mwyn sicrhau bod cyfraniad unigolion yn cael ei gydnabod yn briodol ac yn unigryw pan ddyfernir cymrodoriaethau.
Y Wobr
Rhoddir Cymrodoriaethau Dysgu i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol ar sail tystiolaeth i addysgu, dysgu, asesu a/neu feysydd cysylltiedig o gefnogi addysg myfyrwyr ym Mangor. Mae’r wobr yn seiliedig ar ddyfarniad y Panel.
Enwebiad
Bydd Penaethiaid Ysgol yn ysgrifennu enwebiad 1000-gair a fydd yn amlinellu rhagoriaeth yr ymgeisydd yn eu hymarfer addysgu unigol, gan amlygu'r effaith a gawsant ar lefel ysgol (a thu hwnt), a'u hymgysylltiad â gweithgareddau datblygiad proffesiynol addysgu ac ysgolheictod. Yn ychwanegol at yr enwebiad ysgrifenedig, bydd y cyflwyniad yn cynnwys atodiad a fydd yn darparu tystiolaeth o gyfraniad yr enwebai, a gall hyn gynnwys; gwerthusiadau modiwlau, enwebiadau Gwobr Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr, sylwadau arholwyr allanol, cyhoeddiadau pedagogaidd, tystiolaeth o ddatblygiadau modiwlau / rhaglenni a weithredwyd yn llwyddiannus gan yr enwebai, cymhwyster Cymrodoriaeth AAU lwyddiannus, portffolio PGCertHE llwyddiannus, dyfarniad NTFS, ac yn y blaen.
Bydd Pennaeth yr Ysgol yn gyfrifol am gyflwyno'r enwebiad ysgrifenedig a'r atodiad i Heledd Selwyn (Gweinyddu Myfyrwyr) yn electronig erbyn 14eg Mehefin 2021. Nid oes ffurflenni templed na dogfennau enghreifftiol.
Dewis
Ystyrir enwebiadau gan Banel Cymrodoriaethau Dysgu, sy’n adrodd i’r Grwp Strategaeth Addysgu a Dysgu ac i’r Senedd. Mae’r Panel dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-ganghellor Nicky Callow, ac yn cynnwys y Dirprwy Is-ganghellor, aelod o Addysgu a Dysgu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CELT), dau Gymrawd Dysgu ac un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.
Bydd y Panel yn ystyried yr enwebiadau a gall, yn ôl ei doethineb, gyfweld yr ymgeisydd.
Cyflwyno gwobrau
Cyhoeddir y Gymrodoriaeth yn y Bwletin Staff, ac ar gyfryngau cymdeithasol y Brifysgol, yn ystod haf 2021. Bydd y sawl sy’n derbyn y wobr yn cael y teitl ffurfiol Cymrawd Dysgu Prifysgol Bangor, a gwahoddiad i ymuno â’r Academi Cymrodyr Dysgu.