Newid maint y testun, lliw'r testun a'r lliwiau cefndir, a gosodiadau arddangos eraill
Dyluniwyd y wefan hon fel eich bod yn gallu newid maint y testun, lliw'r testun a'r lliwiau cefndir, a gosodiadau arddangos eraill drwy'r gosodiadau safonol.
I Newid Maint y Testun
Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu ichi wneud testun yn fwy neu'n llai ar dudalen we. Er enghraifft, gwneud testun yn fwy:
- Mac: ‘Command’ + ‘+’
- Windows: ‘Ctrl’ + ‘+’
Pam nad yw hyn yn gweithio gyda rhai gwefannau eraill?
Mae gosodiadau'r porwr ar y dudalen hon yn gweithio pan fydd porwyr a gwefannau yn bodloni Safonau Hygyrchedd W3C ac maent wedi eu cynllunio i fod yn hygyrch, yn hyblyg ac o dan reolaeth defnyddwyr. Ond nid yw rhai porwyr yn rhoi cymaint o reolaeth i ddefnyddwyr, ac mae rhai gwefannau wedi eu cynllunio i drechu gosodiadau'r porwr. Nid yw newid maint testun yn gweithio'n dda mewn porwyr a gwefannau nad ydynt yn bodloni'r canllawiau hygyrchedd.
Gosodiadau Hygyrchedd
Gellir dod o hyd i'r rhain o dan y gosodiadau ‘Accessibility Preferences’ (Mac) neu ‘Ease of Access’ (Windows). Rhoddir enghraifft o un gosodiad y gellir ei newid isod.
Newid Maint Testun a Newid Lliw
Mae'r rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn caniatau i chi newid cynllun lliw eich cyfrifiadur - i gael cyferbyniad uchel neu ddefnyddio hidlwyr lliw.
- Mac: Agorwch ‘Accessibility Preferences’: Apple Menu > System Preferences > Accessibility.
- Yn y golofn chwith, o dan yr adran 'Vision', dewiswch 'Display'
- Windows: Agorwch y gosodiadau 'Ease of Access' trwy wasgu'r fysell logo Windows + 'U' ar y bysellfwrdd neu trwy Start Menu > Settings > Ease of Access.
- Yn y golofn chwith, dewiswch ‘Colour & high contrast’