Croeso
Croeso i wefan y Ganolfan Access. Yma, cewch wybodaeth am y gwasanaethau y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a sut y gellwch eu defnyddio.
Rydym yn ymdrin yn bennaf â cheisiadau am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA), ac mae’r rhan fwyaf o’r wefan hon yn ymwneud ag egluro’r drefn o ran gwneud cais.
Rydym yn darparu Asesiadau Anghenion Astudio ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i dderbyn y LMA. Mae hyn yn golygu siarad â chi ynglyn â’ch anabledd a’r rhwystrau a gewch, ac yna argymell y strategaethau a’r cyfarpar ategol a fydd yn eich galluogi i gael addysg ar yr un lefel â’ch cyd-fyfyrwyr.
Mae'r Ganolfan Access ym Mangor yn gweithio'n agos gyda staff Prifysgol Aberystwyth fel y gellir cynnal asesiadau yn y naill leoliad neu'r llall, yn ôl pa un sydd fwyaf cyfleus i'r myfyriwr.
Polisi Cyfrinachedd y Gwasanaethau Anabledd, cliciwch yma.
Pam Ein Dewis Ni?
Pan sefydlwyd y ganolfan, hon oedd y Ganolfan Asesu Anghenion gyntaf yng Nghymru. Hon yw'r unig Ganolfan Asesu ym Mhrifysgol Bangor ac oherwydd ein perthynas waith agos, mae gennym wybodaeth fanwl am gwricwlwm a chyfleusterau'r Brifysgol. Mae gennym hefyd gyfoeth o brofiad o ran y pecynnau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr anabl ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru a thu hwnt.
Does dim rhaid i chi fod yn fyfyriwr ym Mangor i ddod i'r ganolfan - oherwydd ein bod yn rhan o brifysgol mae gennym wybodaeth a phrofiad o leoliadau academaidd, ni waeth ble rydych chi'n dewis astudio!
Beth yw Asesiad Anghenion Astudio?
Cyfarfod cyfeillgar ac anffurfiol yw Asesiad Anghenion Astudio rhwng aseswr achrededig a'r myfyriwr. Mae gan bob un o'n haseswyr o leiaf chwe blynedd o brofiad o roi cefnogaeth gyda'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, ac mae gan y rhan fwyaf o leiaf 10 mlynedd o brofiad.
Yn ystod y cyfarfod byddwn yn edrych yn fanwl ar eich cwrs ac ar strategaethau a rhwystrau rhag dysgu sy'n gysylltiedig ag anabledd. Yn ystod yr Asesiad Anghenion Astudio bydd yr aseswr yn trafod opsiynau perthnasol o ran cefnogaeth, ac yn dangos technoleg gynorthwyol briodol (e.e. meddalwedd). Yna bydd modd iddynt wneud argymhellion penodol a phwrpasol ynglŷn â'r hyn y gellir defnyddio'r Lwfans i Fyfyriwr Anabl i'w ariannu. Cesglir yr holl wybodaeth i gynhyrchu Adroddiad Asesu Anghenion a gaiff ei anfon i'r corff cyllido ei ystyried.
Teithio?
Gallwn eich helpu i adennill costau a gewch wrth ddod i'r apwyntiad.
Hygyrchedd a’r wefan hon
Mae’r wefan hon wedi ei chreu mewn modd sy’n caniatáu i chi newid maint y ffont, lliw'r ffont a’r lliwiau cefndirol a gosodiadau arddangos eraill trwy osodiadau porwyr safonol, yn yr un modd â gwefan y W3C Web Accessibility Initiative Content Accessibility Guidelines sy'n amlinellu safonau gofynnol ac arfer da ar gyfer creu gwefannau hygyrch.
Rydym hefyd wedi darparu offer ar-sgrîn i wneud hyn. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol nad yw pob safle yn darparu hynny, ac felly wrth ddefnyddio offer sydd ar borwyr safonol i wneud hyn byddwch hefyd yn cynyddu hygyrchedd gwefannau eraill.