Newyddlenni
A fydd Ellie yn y ras?
Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig, yn mynd i Silverstone fory (20 Gorffennaf) am ddiwrnod bythgofiadwy. Bydd Ellie’n mynychu digwyddiad unigryw yn Silverstone gyda swyddogion gweithredol Santander a ffigurau amlwg o’r byd rasio ceir.
A hithau’n ugain oed, mae Ellie yn astudio am radd mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor, ac yn un o'r myfyrwyr a enwebwyd ar gyfer Rhaglen Ysgoloriaeth Women in Engineering Prifysgolion Santander.
Os y bydd yn llwyddiannus, bydd Ellie yn un o 30 o fyfyrwyr yn y DU a fydd yn cofrestru ar raglen ddwy flynedd sy’n rhoi cymorth benodol i beirianwyr benywaidd, gyda'r nod o roi'r offer a'r adnoddau y bydd eu hangen ar y myfyrwyr er mwyn llwyddo ar ôl gadael y brifysgol.
Yn ogystal â'i chariad tuag at beirianneg, dewisodd Ellie, o Hornby, Lancaster, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Kirkham, astudio ym Mangor oherwydd y dewis enfawr o weithgareddau awyr agored yma.
Dywed am ei phwnc:
“Rwyf wrth fy modd yn gwybod sut mae pethau'n gweithio ac rwy'n gobeithio yn y dyfodol i weithio at greu dyfodol cynaliadwy gydag ynni adnewyddadwy.”
Fel partner yn rhaglen Prifysgolion Santander, mae Bangor yn gallu enwebu myfyrwyr ar gyfer y cynllun. Mae Prifysgolion Santander yn ceisio helpu i lywio addysg deg, amrywiol, gynaliadwy a thrawsnewidiol yn y DU. Maent yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant peirianneg y DU ar hyn o bryd, yn enwedig yr heriau sy'n wynebu myfyrwyr peirianneg benywaidd, a dyna pam y maent wedi creu'r Rhaglen Women in Engineering.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019