Bangor a’r ardal
Ym Mangor...
Mae gan Fangor y stryd fawr hiraf yng Nghymru, gyda chymysg o siopau cenedlaethol a busnesau lleol bychan. Mae’r mwyafrif o adeiladau’r Brifysgol a neuaddau o fewn pellter cerdded o ganol y ddinas.
Ym Mangor, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig canolbwynt ar gyfer gweithgareddau ac adloniant ac mae ein holl glybiau a chymdeithasau am ddim i ymuno â nhw.
Mae rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau eisoes wedi arwain at neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr a chlwb nos newydd Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau academaidd.
Canolfan Chwaraeon
Mae Canolfan Brailsford, sef canolfan chwaraeon y Brifysgol wedi ei lleoli ym Mhentref Ffriddoedd. Mae’n cynnwys campfa, neuaddau chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen a cromen chwaraeon newydd sbon sy’n gartref i gyrtiau pêl-rwyd a thenis dan do.
Canolfan Pontio
Mae canolfan Pontio yn sefydliad o fri byd-eang ym maes arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau creadigol.Yn ogystal â bod yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, mae’n cynnwys theatr, sinema, ystafelloedd darlithio, mannau cynnal arddangosfeydd, bar a llefydd bwyta
O amgylch Bangor...
Ynys Môn
Ynys Môn yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy’n dod i ogledd Cymru, yn bennaf oherwydd y milltiroedd o draethau a llwybrau arfordirol a cheir yno.
Mae tref Porthaethwy, sy’n gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, rhyw chwarter awr o gerdded i ffwrdd o Fangor Uchaf ac yno mae nifer o siopau bychain, tai bwyta, caffis a thafarndai.
Ac os oes gennych awydd mentro dros y dŵr i Iwerddon, gallwch deithio yno o borthladd Caergybi, sydd rhyw hanner awr i ffwrdd o Fangor ar y trên.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn baradwys i’r rhai hynny ohonoch sy’n gwerthfawrogi natur ar ei harddaf. Mae’r parc yn 25 milltir o drysor cenedlaethol sy’n cynnwys nifer o atyniadau.
Gallwch chi fwynhau chwaraeon awyr agored megis cerdded, dringo, beicio a chanŵio yn yr ardal, sydd hefyd yn gartref i lagŵn syrffio Surf Snowdonia, gwifrau zip hiraf a chyflymaf Ewrop yn Zip World, a neidio ar drampolinau tanddaearol yn ogofau Bounce Below!
Mae nifer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn trefnu teithiau i Eryri’n rheolaidd.