Newyddlenni
Clwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched
Nid yw dyfeisio cynhyrchion electronig newydd neu ymchwilio i blanhigion - y tu mewn a'r tu allan - yr hyn y bydd y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau yn ei wneud ar foreau Sadwrn.
Ond mae'r rhain ymhlith rhai o'r pethau y bu grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn ei wneud fel rhan o Glwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched Prifysgol Bangor.
Eleni, cafwyd mwy o enwau nag yr oedd lle iddynt ar y cwrs poblogaidd, a gynhelir gan y Brifysgol ar y cyd â Gyrfa Cymru. Yn y diwedd, dewiswyd 25 o enethod o 9 ysgol ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy i wneud y cwrs.
Yn ystod y rhaglen chwe wythnos, treuliodd y genethod pedair ar ddeg oed eu boreau Sadwrn yn darganfod mwy am wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a hynny mewn awyrgylch llawn hwyl a gwybodaeth.
Cynhaliwyd y gweithdai yn y Brifysgol, ac roeddent yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau, gyda'r amcan o annog y genethod i barhau gydag astudio pynciau STEM yn y dyfodol. Dyma rai o’r gweithdai: Electroneg Ymhobman (Ysgol Peirianneg Electronig); Archwilio planhigion y tu mewn a’r tu allan (Ysgol Gwyddorau Biolegol); Cregyn: tlysau prydferth ynteu anifeiliaid rhyfeddol? (Ysgol y Gwyddorau Eigion); Chwarae Ditectif i Ddatrys Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt (Ysgol Gwyddorau Biolegol); a Mae’n rhyfel ar y lan greigiog! (Ysgol y Gwyddorau Eigion).
Daeth y rhaglen i ben gydag ymweliad â safle Magnox yn yr Wylfa, a drefnwyd gan Gyrfa Cymru. Yn ogystal â thaith i’r orsaf bŵer a drefnwyd gan Magnox Cyf, cymerodd y genethod ran mewn gweithgareddau adeiladu tîm, a bu iddynt gyfarfod â pheirianwyr sy'n ferched, ac yn clywed am eu llwybrau gyrfaol a'u profiadau.
“Rydym ni'n falch iawn o fod wedi gallu cynnig y gweithdai hyn am y drydedd flwyddyn yn olynol", meddai Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae'r ffaith bod cymaint mwy wedi rhoi eu henwau i lawr ar gyfer y cwrs nag yr oedd lle iddynt yn dangos bod Clwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor yn cael ei weld gan ddisgyblion, ysgolion a rhieni fel profiad addysgol gwerth chweil a difyr i'r rhai hynny sy'n ddigon ffodus i gael cymryd rhan.
“Bu'r merched yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau a phrofiadau i ddangos iddynt yr ystod o gyrsiau a gyrfaoedd sydd i’w cael mewn gwyddoniaeth. "Gobeithio y bydd y genethod i gyd wedi eu hysbrydoli gymaint gan yr hyn buont yn ei wneud ar y rhaglen Darganfod Gwyddoniaeth ac yn awyddus i barhau i astudio gwyddoniaeth yn y dyfodol."
Dywedodd Nerys Bourne, Rheolwr Tîm gyda Gyrfa Cymru: "Mae'r galw am weithwyr medrus ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), yn lleol ac yn fyd-eang, yn cynyddu. Mae prinder cyffredinol o bobl ifanc sy'n astudio am gymwysterau'n gysylltiedig â gwyddoniaeth ar ôl Lefel A, ac mae merched yn enwedig yn cael eu cynrychioli'n annigonol mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth. Mae yna amrywiaeth enfawr o lwybrau gyrfaoedd cyffrous i bobl gyda sgiliau wedi'u seilio ar STEM, ac mae'r rhaglen Darganfod yn annog genethod i ymchwilio i rai o'r syniadau hyn.”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2013