Newyddlenni
Datblygu Meddalwedd ar gyfer y byd tanddwr i gyd-fynd â lansiad dyfais symudol Samsung Gear VR newydd
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Llyr ap Cenydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg, wedi bod yn gweithio ar broject cyfrinachol gyda Samsung ac Oculus i ddatblygu ap o'r enw "Ocean Rift" y disgwylir ei lansio ochr yn ochr â'r ddyfais symudol Samsung Gear VR newydd.
Mae'r dechnoleg gemau hon mor newydd fel nad yw wedi cael ei rhyddhau'n gyffredinol eto, ond daw ar y farchnad agored yn y flwyddyn nesaf. Cafodd Llyr wahoddiad i ddatblygu ar gyfer y ddyfais gan ei fod wedi rhyddhau sawl demo gêm a thechnegol ar ddyfais debyg o'r enw Oculus Rift.
Profiad Realiti Rhithwir (VR) yw Ocean Rift lle mae'r defnyddiwr yn ei gael ei hun mewn byd tanddwr llachar. Mae'r defnyddiwr yn cael y profiad o nofio gyda gwahanol greaduriaid môr gan gynnwys dolffiniaid, crwbanod môr, nadredd môr, cathod môr, siarcod, morfilod a hyd yn oed ymlusgiaid o'r cyfnod cynhanesyddol sydd wedi hen ddiflannu. Mae'r ap yn galluogi defnyddwyr i ddewis o gyfres o gynefinoedd gan ddefnyddio panel cyffwrdd ar ochr y ddyfais. Yna cânt eu telegludo i'r lle o'u dewis, gall hyn fod yn greigres gwrel neu'n llongddrylliad, neu'n lagŵn, y cefnfor dwfn a hyd yn oed Atlantis. Yna gallant gyfarfod creaduriaid sydd wedi eu hanimeiddio gan system deallusrwydd artiffisial flaengar iawn a ddatblygwyd yn unswydd ar gyfer y project, lle mae'r creaduriaid wedi eu hanimeiddio yn ymddwyn mewn ffordd sydd bron â gwneud i chi gredu eu bod yn greaduriaid go iawn.
Meddai Dr Llyr ap Cenydd, sydd wedi treulio naw mis yn datblygu'r ap:
"Mi wnes i'r project hwn yn fy amser sbâr ond mae'n gysylltiedig â fy ymchwil mewn animeiddio a realiti rhithwir. Bydd yr ap yn rhedeg ar y Gear VR sy'n benset realiti rhithwir sydd wedi ei bweru gan ffôn clyfar Note 4. Pan fyddwch yn gwisgo'r penset rydych yn ymgolli yn llwyr yn y byd rhithwir. Mae'r ddyfais sy'n edrych fel pâr o gogls sgïo, yn chwyddo sgrin y ffôn clyfar fel ei fod yn llenwi'r maes gweledol y defnyddiwr. Trwy ddangos delwedd wahanol i bob llygad ac olrhain ble mae'r defnyddiwr yn edrych, mae'n peri i'r defnyddiwr deimlo eu bod wedi cael eu cludo i realiti newydd. Rydym wedi bod yn arddangos rhywbeth tebyg yn ein Diwrnodau Agored ac yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Bangor eleni ac mae pawb wedi cael ei synnu gan y profiad. "
Dechreuodd Ocean Rift fel arbrawf i weld pa mor bell y gallwn fynd â thechnoleg rithwir newydd i wneud i rywun deimlo fel petai o dan y dŵr. Mae'r fersiwn Gear VR yn cymryd pethau'n llawer pellach - gallwch nofio gyda haig o ddolffiniaid, sefyll mewn cawell wedi eich amgylchynu gan Siarcod Gwyn Mawr a hyd yn oed nofio gyda chreaduriaid sydd wedi hen ddiflannu. Mae gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf wedi bod yn brofiad anhygoel ac ni allaf ddisgwyl i bobl i roi cynnig arni .
Bydd Ocean Rift ar gael i'w lwytho i lawr pan fydd y Samsung Gear VR yn lansio yn ddiweddarach eleni.
Ond bydd Llyr yn arddangos y meddalwedd ar y Oculus Rift yn ystod Symposiwm ALIA (artificial life and intelligent agents) a gyhnelir gan HPCWales ym Mhrifysgol Bangor dros 5/6 Tachwedd ar gyfer y rhai sydd yn methu aros i roi cynnig ar y dechnoleg newydd hon!
Noddir swydd Dr ap Cenydd gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2014