Newyddlenni
Defnyddio ein heulwen Gymreig
Dr Jeff Kettle a Stevie Scanlan o’r Ysgol Peirianneg Electronig yn archwilio paneli solar ar ben to’r Ysgol.Yng Nghymru rydym yn cael 1,390 awr o heulwen bob blwyddyn ar gyfartaledd ac fe ellid troi'r heulwen honno'n drydan. Pe baem ond yn gallu dal cyfran fechan o'r heulwen a'i throi'n drydan, ni fyddem angen ffynhonnell arall i greu trydan i gyflawni ein holl anghenion ynni.
Yr enw ar y dechnoleg hon yw photovoltaics, sy'n harneisio pelydrau'r haul a throi'r ynni'n drydan y gellir ei ddefnyddio'n lleol wedyn neu ei fwydo i'r grid cenedlaethol.
Yn rhyngwladol mae'r farchnad Photovoltaic (PV) yn tyfu'n gyflym a gwelir y duedd honno yng Nghymru hefyd a gwledydd eraill Prydain. Mae'r cynnydd presennol mewn technolegau photovoltaic wedi cael ei ysgogi'n bennaf wrth i ddeunyddiau a dyfeisiadau newydd i wella perfformiad a gostwng costau gael eu datblygu, yn ogystal â darpariaethau ariannol gan y llywodraeth.
Mae arbenigwyr PV yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol wedi bod yn elwa ar y twf sylweddol yn y farchnad drwy weithio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau PV. Gall y rhain fod yn rhatach, gellir hefyd eu hymgorffori'n haws mewn adeiladau ac maent yn fwy addas i hinsawdd fel un Cymru. Mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn rhai organig eu natur ac nid ydynt yn wenwynig.
Dr Jeff Kettle a chydweithwyr yn yr ‘ystafell lân’, lle mae deunyddiau pv yn cael eu cynhyrchu a’u profi yn yr Ysgol Peirianneg Electronig.Fel hyn yr eglurodd Dr Jeff Kettle, darlithydd ac ymchwilydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig: "Gall y mathau o gelloedd solar rydym yn gweithio efo nhw fod yn newid sylweddol at greu trydan solar ar draws y rhanbarth. Er mai wrthi'n cael eu datblygu y mae llawer o'r dyfeisiadau PV newydd yma ar hyn o bryd, mae yna botensial enfawr at y dyfodol gan eu bod mor hwylus ac ysgafn."
"Mae cefnogi'r diwydiant PV yng Nghymru drwy gryfhau'r sylfaen academaidd a thrwy ganolfannau trosglwyddo gwybodaeth yn rhan bwysig o sicrhau bod Cymru'n elwa'n sylweddol o'r twf yma," ychwanegodd.
Rhoddir yr ymrwymiad hwn ar waith drwy fenter €1.8 miliwn i ddatblygu a chynnal cyflogaeth yn y diwydiant ynni solar pwysig yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r ‘Wales Ireland Network for Innovative Photovoltaic Technologies’ (WIN-IPT) yn gynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, y Waterford Institute of Technology a Phrifysgol Abertawe. Mae wedi ei gyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy'r rhaglen Cymru Iwerddon 2007-13. Mae'r Rhwydwaith yn galluogi i ddiwydiannau perthnasol yn y rhanbarth gael y wybodaeth a'r hyfforddiant diweddaraf am y datblygiadau cyfredol yn y dechnoleg hon sy'n symud mor gyflym a bydd hynny'n hybu arloesi pellach yn y sector ynni solar.
Cynhelir gweithdy'n ymdrin â 'Datblygiadau newydd mewn technoleg PV' ym Mangor ar 6 Medi i dynnu sylw at dueddiadau presennol yn y diwydiant PV. Bydd arbenigwyr academaidd o Gymru ac Iwerddon yn cymryd rhan. Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at ymchwilwyr, diwydiant a chwmnïau a sefydliadau sydd â diddordeb cyffredinol mewn ynni adnewyddadwy.
Gellir cofrestru yma
Yn ôl Dr Jeff Kettle: "Mae gan y partneriaid sy'n ymwneud â'r Rhwydwaith record gadarn o wneud gwaith ymchwil sy'n berthnasol yn fasnachol. Fedr yr un unigolyn gyflawni'r math o sialensiau rydym yn delio efo nhw; felly rydym wedi dod â thîm rhyngddisgyblaethol o gemegwyr, peirianwyr dyfeisiadau, arbenigwyr gweithgynhyrchu, a'r rhai fydd yn defnyddio'r offer yn y diwydiant, at ei gilydd.
Er gwaethaf y dirwasgiad economaidd, mae'r trydan solar a gynhyrchir ar draws Ewrop yn dal i gynyddu. Mae cost ynni solar yn gostwng yn gyson, fel y mae cost olew a nwy yn parhau i godi."
Amcangyfrifir bod gan Gymru'r gallu i gynhyrchu 150-200 MegaWat (MW) o drydan solar yn Awst 2013, sef tua 2 ran o 5 o'r hyn mae gorsaf niwclear Yr Wylfa'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi yr hoffai ddiwygio'r targed i dros 22 GigaWat (22000 MW) ar draws gwledydd Prydain erbyn 2020. Amcangyfrifir am bob MW o drydan a ddarperir bod hynny'n arwain at greu tua 50 o swyddi newydd yn y diwydiant, yn ymwneud â gosod yr offer a chynnal y ddarpariaeth wedyn.
Mae'r Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei hystyried yn un o ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw Cymru ac, yn yr asesiad ymchwil diwethaf, fe'i gosodwyd yn ail drwy Brydain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013