Newyddlenni
Dethol myfyrwyr mentergarwch i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Prifysgolion Santander
Bu myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.
Wedi iddynt gyflwyno’u syniadau busnes neu eu cwmnïau newydd i banel beirniaid ac ymateb i holi manwl ganddynt, bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn awr yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer i ennill y gwobrau drwy Brydain. Cynigir gwobrau o hyd at £15,000, mentora a chefnogaeth i gwmni cychwynnol.
Cyflwynwyd dau gategori newydd ar gyfer Gwobrau Entrepreneuraidd Santander eleni; ‘Technolegau newydd ac apps i ffonau symudol’ a 'Nwyddau a gwasanaethau beunyddiol o bwys’. Gallai’r ceisiadau fod yn syniadau’n unig neu eisoes wedi eu datblygu’n fusnesau wedi eu lansio’n ddiweddar.
Yn dilyn y Gystadleuaeth, dewiswyd dau enillydd o’r categori Cynnyrch a gwasanaethau beunyddiol o bwys. Penderfynodd beirniaid y Brifysgol bod y ddau, Thomas McCarley ac Elen Hughes yn haeddu gwobr. Yn dilyn rownd ychwanegol, dewiswyd Elen i gynrychioli’r Brifysgol. Gweler yma fideo byr o Elen yn siarad am ei chwmni- Ffranc.
Mae Elen Hughes o Gricieth wedi dechrau ei busnes bach yn creu gwaith celf personol ar gyfer unrhyw achlysur, ac yn gobeithio gwerthu ei anrhegion mewn siopau lleol a chynyddu maint ei busnes, gan ei bod hi ar fin cwblhau ei gradd yn y Gymraeg.
Roedd y cyn-ddisgybl o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli wedi ei syfrdanu, ond yn falch iawn ei bod wedi ennill, ac meddai:
“Rwy’n meddwl bod cystadleuaeth fel hon yn rhoi hwb ac ysbrydoliaeth i gymryd eich busnes o ddifri, dim ots pa mor fach ydyw, ac yn ffordd wych o gael sylwadau adeiladol a gweld syniadau pobl eraill.”
Daw Thomas McCarley o Saron, pentref ger Rhydaman. Er ei fod yn astudio i gymhwyso fel athro, mae Thomas wedi dechrau busnes yn paratoi danteithion i gŵn, sydd o ansawdd uchel a ddim yn cynnwys glwten.
Daeth y syniad o’i awydd i fwydo bwyd maethlon i’w gi. Mae wedi dechrau gwerthu’r danteithion yn lleol a’r cam nesaf yw cynyddu’r cynhyrchu a’i werthu mewn mwy o siopau.
Meddai: “Roedd ennill yn annisgwyl: roedd syniadau gwych yn cael eu cyflwyno, ac mae ennill wedi rhoi ffydd i mi yn fy nghynnyrch.”
Yn cyflwyno’i syniad yn yr un dosbarth roedd Suita Diaz o Ysgol Fusnes y Brifysgol. Daw Suita o deulu sydd yn tyfu a gwerthu coffi yn ei gwlad enedigol, Honduras. Mae hi’n teimlo’n angerddol dros ei model o fasnachu coffi’n uniongyrchol i yfwyr coffi ym Mhrydain, ac yn gobeithio y bydd yn rhoi budd uniongyrchol i dyfwyr coffi yn Honduras.
Mae Suita, sy’n bump ar hugain, yn astudio am MA mewn Busnes a Marchnata drwy Ysgoloriaeth Chevening, wedi iddi raddio o Universidad Tecnológica Centroamericana, UNITEC (Honduras).
Meddai Suita: “Mae coffi’n rhoi cyfle i newid bywydau, fel yr ydw i’n dyst iddo. Prif bwrpas a chymhelliant y fenter yw creu busnes a fydd yn hybu a gwella bywoliaeth ffermwyr a chaniatáu iddynt ffermio mewn modd mwy cynaliadwy, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn galluogi pobol ym Mhrydain i fwynhau ein coffi Hondiwraidd blasus!”
Y buddugwyr yn y categori Technoleg Newydd ac Aps Symudol oedd tîm myfyrwyr o’r enw My Stryd, a’u ap i annog twf yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r Stryd Fawr.
Mae aelodau’r tîm, Nikita Savy, Sabria Behilil, Jack Morris, Leon Gartland ac Aleksandra Kozłowska wedi cyfuno’u harbenigedd mewn seicoleg, bancio a chyllid, peirianneg electronig, newyddiaduraeth a’r cyfryngau, a dylunio a datblygu gemau, er mwyn datblygu eu syniadau.
Mae gan eu cynnyrch botensial i adfywio diddordeb a siopa ar Stryd Fawr Bangor drwy ap sydd ar ffurf gêm ac sydd yn gwobrwyo pobl am fynychu siopau lleol; yr un pryd mae’r busnesau lleol yn derbyn gwybodaeth o bwys am bwy sydd yn dod i’w siopa, a hynny mewn model y gellir ei efelychu mewn trefi ar hyd y wlad.
Mae’r tîm wedi gwirioni efo’r canlyniadau ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfleoedd newydd a ddaw yn ei sgil. Eisoes mae busnesau ac Arloesi Pontio wedi dangos diddordeb, ac maent yn edrych ar ddechrau datblygu prototeip a mireinio rhai nodweddion a fyddai’n barod i’w dangos petaent yn cyrraedd y rownd derfynol ym Mhrydain.
Wrth siarad ar ran y grŵp dywedodd Leon Gartland: “Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth fel hyn yn her ac yn tynnu’r gorau allan mewn rhywun. Byddwn yn argymell i unrhyw fyfyriwr sy’n cael cynnig y cyfle i’w gymryd ac elwa i’r eithaf arno. Gallai arwain at bethau mawr, gyrfa lewyrchus efallai, neu eich gwneud yn fwy cyflogadwy yn y dyfodol.
Meddai cadeirydd panel y beirniaid, yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Unwaith yn rhagor mae ein myfyrwyr wedi rhoi tasg anodd i ni, gan fod safon y cyflwyniadau yn uchel iawn. Rydym yn meithrin ysbryd entrepreneuriaeth ymysg ein myfyrwyr, ac mae cymryd rhan yn y gweithgareddau entrepreneuraidd sydd yn cael eu darparu gan y Brifysgol yn galluogi ein myfyrwyr i feithrin sgiliau busnes hanfodol a fydd efallai o ddefnydd yn ystod eu gyrfaoedd.”
Dyfarnwyd £200, ynghyd â chefnogaeth fentora bellach, i enillwyr pob categori er mwyn iddynt ddatblygu eu cynllunio busnes.
Caiff rownd Prifysgol Bangor o Gystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander ei chyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Strategaeth Entrepreneuriaeth yr Ifanc (Youth Entrepreneurship Strategy neu YES) yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016