Newyddlenni
Deunydd adeiladu solar rhychiog yn dangos ei botensial
Er bod toriadau arfaethedig llywodraeth y DU i dariffau cyflenwi trydan ar gyfer paneli solar ar gartrefi yn her i ddiwydiant cynhyrchu ynni solar, mae posibiliadau newydd o ran gosod paneli ffotofoltaig mewn deunyddiau adeiladu yn agor drysau newydd i'r diwydiant ac i ddulliau cynhyrchu ynni solar ar gyfer cartrefi a busnesau.
Mae ymchwil gan Dr Noel Bristow (PhD mewn peirianneg electronig) a Dr Jeff Kettle o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor a gyhoeddwyd yn The Royal Society of Chemistry (Energy & Environmental Science, DOI:10.1039/C5EE02162F) yn awgrymu bod gosod paneli ffotofoltaig organig (OPVs) ar swbstradau tri dimensiwn (o'u cyferbynnu â swbstradau gwastad) yn fodd o'u gwneud yn llawer mwy effeithlon a defnyddiol.
Oherwydd eu cost isel a'u hyblygrwydd, y ffaith y gellir eu hargraffu a bod yr ynni a gynhyrchant yn ad-dalu'r costau mewn amser byr, bernir mai OPVs yw'r dewisiadau mwyaf addawol i gynhyrchu ynni'r haul i'r genhedlaeth nesaf, ac maent yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd gellir eu gosod mewn deunyddiau adeiladu. Mae paneli ffotofoltaig sydd yn rhan integredig o'r deunyddiau adeiladu yn apelio am resymau aesthetig at benseiri, adeiladwyr a pherchnogion cartrefi ac mae'n sector o'r farchnad y disgwylir iddi dyfu'n sylweddol dros y 5-10 mlynedd nesaf. Mae'r paneli BIPV (Building Integrated Photovoltaics) presennol yn cael eu gwneud fel arfer o silicon neu ddeunyddiau anorganig eraill, nad ydynt yn arbennig o addas i'r diben. Mantais OPVs yng nghyd-destun BIPV yw'r ffaith y gellir eu hargraffu. Golyga hyn y gellir argraffu'r celloedd solar mewn unrhyw batrwm.
Yn y gwaith hwn, cafodd OPVs eu lamineiddio ar ddeunyddiau to. Canfu’r ymchwil ym Mhrifysgol Bangor fod defnyddio OPVs yn y modd hwn yn arwain at welliannau sylweddol mewn effeithlonrwydd yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda'r nos. Mae'r gwelliant yn y perfformiad yn arbennig o arwyddocaol gyda'r nos oherwydd yr adeg honno y mae’r galw am drydan ar ei uchaf yn y DU a'r gost fel arfer ar ei uchaf hefyd. Hefyd mae ffurf y paneli rhychiog yn golygu y gallant gynhyrchu mwy o drydan pan fydd y tywydd yn gymylog, tua 30% yn fwy, o'i gymharu â phanel solar gwastad ar yr un arwynebedd.
Dywedodd Jeff Kettle: "Gallai canlyniadau ein profion ni arwain at gynnyrch sydd â manteision dirfawr dros gynhyrchion BIPV presennol neu dechnolegau solar anorganig confensiynol, yn enwedig yn achos gwledydd sy'n bellach i'r gogledd."
Dywedodd Noel Bristow: "Mae OPVs ar fin datblygu i'r pwynt pryd y gellir eu masnachu a daw'r pwynt hwnnw mewn meysydd fel BIPV strwythuredig."
Cefnogwyd y gwaith gan gydweithwyr yn y Sefydliad Ynni ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Labordy Cenedlaethol Ynni Cynaliadwy DTU Risø yn Nenmarc.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015