Newyddlenni
EXPO, sy'n dathlu gwaith prosiect trydedd flwyddyn, yn mynd yn rhithwir
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig (CSEE) eu harddangosfa prosiect trydedd flwyddyn ar-lein eleni. Bob blwyddyn mae'r myfyrwyr o'r ysgol yn arddangos posteri sy'n crynhoi eu gwaith prosiect unigol. Yn 2021, oherwydd y pandemig byd-eang, symudwyd y digwyddiad ar-lein. Creodd yr ysgol oriel rithwir tri dimensiwn, lle gallai myfyrwyr grwydro o gwmpas a gweld posteri gwahanol, a chawsom drafodaethau gan ddefnyddio ffwythiant sgwrsio Microsoft Teams.
Cynhaliwyd yr Expo ar ddydd Mercher, 11 Mawrth 2020, rhwng 13:00 a 16:00. Cafwyd ystod eang o bynciau eleni, gan gynnwys Rhyngrwyd o Bethau, Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gemau, Delweddu, Cyfathrebu, Gweledigaeth Gyfrifiadurol a Gwyddoniaeth Deunyddiau. Croesawyd pawb i'r Expo gan Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yr Ysgol) a Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol).
Dywedodd Dave Perkins "Roedd yn wych cynnal y digwyddiad Expo ar-lein. Mwynheais gerdded o amgylch y gofod rhithwir a siarad â'r myfyrwyr. Mae'r Expo yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddangos yr hyn y maent wedi bod yn gweithio arno. Er bod y pandemig wedi newid y ffordd rydym yn gweithio, mae wedi ein galluogi i wneud pethau'n wahanol. Roedd Expo 2021 yn llwyddiant mawr ac fe wnaeth y myfyrwyr ei fwynhau."
Dywedodd Daniel Farmer (myfyriwr BSc Cyfrifiadureg) "Roedd yn brofiad unigryw iawn cael cyflwyno yn yr EXPO ar-lein. Mwynheais fynd am dro o amgylch yr ystafelloedd a gweld beth oedd fy nghyfoedion i gyd wedi treulio'r misoedd diwethaf yn gweithio arno, ac roedd yn llawer mwy deniadol na dim ond syllu ar dudalen o bosteri. Roeddwn i'n gallu cyflwyno fy ngwaith mewn gofod rhithwir a siarad â mwy o bobl nag y gallwn i fel arfer, heb gael fy llethu gan gyflwyno i dorf."
Datblygwyd y feddalwedd rhith-wirionedd gan Dr Pete Butcher (ymchwilydd ôl-ddoethurol yn yr ysgol) a Dr Cameron Gray (darlithydd mewn seiberddiogelwch), gyda'r cynllun i'w ddefnyddio fel byd rhithwir enghreifftiol yn ein haddysgu. Dywedodd Dr Panagiotis Ritsos (darlithydd mewn delweddu) "Adeiladwyd y byd rhithwir gan ddefnyddio AFrame, ac mae wedi cael ei ddatblygu o gynnwys yr ydym yn ei addysgu yn ein modiwlau, megis Technolegau Gwe, AI a Dylunio Gemau, ar gyfer cyrsiau gradd Cyfrifiadureg gyda Dylunio Gemau a Thechnolegau Creadigol. Roedd yn gyffrous ymgysylltu â'r myfyrwyr yn yr amgylchedd rhithwir hwn".
Dywedodd Dr Daniel Roberts (darlithydd mewn Peirianneg Electronig) "Bob blwyddyn mae'r digwyddiad expo yn rhoi'r gallu i'r myfyrwyr arddangos eu gwaith prosiect, gweld beth mae myfyrwyr eraill wedi'i greu, ac i ni ddathlu gwaith ein myfyrwyr. Roedd yn wych siarad â'r myfyrwyr ar-lein a'u trochi o fewn eu gwaith mewn amgylchedd rhithwir".
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2021