Newyddlenni
Gwnewch bopeth – gan gynnwys nofio â siarcod ‘rhithwir’ – yn Gymraeg!
Mae’n debyg mai "Ocean Rift", un o raglenni Profiad Realiti Rhithwir (VR) mwyaf poblogaidd y byd, yw’r rhaglen gyntaf i fod ar gael yn y Gymraeg ar gyfer unrhyw benwisg Profiad Realiti Rhithwir (VR).
Ocean Rift, a grëwyd gan Dr Llŷr Ap Cenydd, Darlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, oedd un o’r rhaglenni cyntaf i’w ryddhau a’i lansio ochr yn ochr â dyfais symudol Samsung Gear VR, ac mae wedi datblygu i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, gydag oodeutu 2.5 miliwn o lawrlwythiadau ers 2013.
Datblygodd Llŷr y rhaglen profiad rhithwir ar y cyd gyda Samsung ac Oculus, a hynny yn ei amser hamdden. Wedi ei chyhoeddi gan Picselica Lrd, mae’r rhaglen wedi ei ddefnyddio ar gyfer lansio nifer o benwisgoedd newydd.
Ym myd rhithwir ‘Ocean Rift’, sef ‘Parc Saffari Tanddwr’, mae'r defnyddiwr yn canfod ei hun o dan y tonnau mewn byd llachar. Mae'r defnyddiwr yn cael y profiad o nofio gyda gwahanol greaduriaid môr gan gynnwys dolffiniaid, crwbanod môr, nadredd môr, cathod môr, siarcod, morfilod a hyd yn oed ymlusgiaid o'r cyfnod cyn-hanesyddol sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Mae'r rhaglen yn galluogi defnyddwyr i ddewis o gyfres o gynefinoedd, ac hefyd symud rhyngddynt, gan ddewis o blith creigres gwrel, llongddrylliad, lagŵn, y cefnfor dwfn a hyd yn oed Atlantis. Mae’r creaduriaid wedi eu hanimeiddio gan system deallusrwydd artiffisial blaengar iawn a ddatblygwyd yn unswydd ar gyfer y project, ac sy’n dynwared ymddygiad y creaduriaid go iawn.
Mae dros 50 o baneli gwybodaeth am y creaduriaid o fewn maes addysgol y rhaglen bellach ar gael yn Gymraeg. Maent yn adrodd ffeithiau am gynefinoedd y creaduriaid, eu diet, bywydau cymdeithasol ac os ydynt o dan fygythiad neu beidio. Mae hefyd troslais i’r cyfan, gyda gwraig Llŷr, Lisa Louise Cenydd, Athrawes yn Ysgol Llandegfan, yn lleisio’r wybodaeth yn Gymraeg.
Plant o ysgolion y bu Llŷr yn gyn-ddisgybl ynddynt (Ysgol Gymuned y Fali ac Ysgol Bodedern) fydd y rhai cyntaf i gael gweld y rhaglen addysgiadol yn Gymraeg, wrth iddynt fynychu digwyddiad yn M-Sparc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor yng Ngaerwen ar 28 Tachwedd.
Hefyd yn ystod y digwyddiad, cynhelir sesiwn codio cyfrifiadurol i blant, fel eu bod yn cael cyfle i ddatblygu’r un sgiliau ag sydd gan Llŷr ap Cenydd.
Meddai Llŷr:
"Mae rhywun yn cael argraff o faint a mawredd y Morfil Glas wrth nofio ochr yn ochr ag o yn Ocean Rift, sy’n brofiad cwbl unigryw i’r cyfrwng hwn. Mae’r elfennau addysgiadol yn mynd â hyn gam ymhellach, gan alluogi defnyddwyr i ddysgu am fywyd ym moroedd y byd drwy ‘nofio’ yn eu dyfroedd. Rwy’n falch iawn o’r cydweithio â phartneriaid i alluogi plant ac oedolion Cymraeg-eu-hiaith i ddysgu am fywyd morol yn y dull newydd a chyffrous hwn.”
Mae’r cyfieithiad wedi ei ddatblygu ar y cyd gyda Chanolfan Ehangu Mynediad, Ysgol Addysg a chyfieithwyr Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, gan alluogi disgyblion ysgol ledled Cymru i ddysgu am gefnforoedd y byd mewn ffordd newydd a chyffrous.
Meddai Delyth Murphy, Pennaeth Ehangu Mynediad: Mae wedi bod yn bleser gallu cefnogi’r fenter hon er mwyn dangos i blant y rhanbarth yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw wireddu eu breuddwydion, a hynny trwy’r Gymraeg.”
Mae’r diweddariad Cymraeg ar gael drwy wneud cais uniongyrchol i Llŷr ap Cenydd. Anfonwch e bost at llyr.ap.cenydd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018