Newyddlenni
Interniaeth yn Jaguar Land Rover yn gwireddu breuddwyd Peter
Mae myfyriwr mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol wedi treulio ei ail haf ar gynllun nawdd o fri yn Jaguar Land Rover yn Coventry.
Cyn hir, bydd Peter Doggart, 22, o Béal Feirste (Belfast), Gogledd Iwerddon, yn cychwyn ar bedwaredd flwyddyn ei gwrs gradd MEng yn Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor. Yn ystod ei ail flwyddyn, recriwtiwyd Peter yn llwyddiannus ar gyfer cynllun nawdd, yn dilyn diwrnod caled o chwarae rôl, ymarferion tîm, profion seicometrig a chyfweliad.
Mae Cynllun Nawdd Jaguar Land Rover yn agored i unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn cwrs gradd mewn Peirianneg cysylltiedig â Thrydan, ac yn para ar hyd cwrs gradd y myfyriwr. Mae’r cynllun yn galluogi’r myfyriwr i weithio ar un o safleoedd Jaguar Land Rover am 12 wythnos bob haf, o’r adeg y cofrestrant hyd nes iddynt raddio, gyda llwybr cyflym arbennig at y rhaglen i raddedigion ar ôl iddynt raddio.
Fel rhan o’r cynllun, mae interniaid yn ennill cyflog o £300 yr wythnos (£15,600 y.f.) am y 12 wythnos y byddant yn gweithio, yn ogystal â £1,500 o fwrsariaeth i ddychwelyd i’r brifysgol, ar yr amod eu bod yn cytuno i fynd yn ôl yr haf dilynol neu y cânt eu derbyn ar y rhaglen i raddedigion. Ar ben hynny, caiff myfyrwyr sy’n dychwelyd ar leoliad fantais arall, sef cael y dewis cyntaf o ba adran yr hoffent dreulio’r haf ynddi, fel y gallant ddewis rhywbeth sydd o ddiddordeb gwirioneddol iddynt neu yr hoffent ddysgu mwy amdano.
Gan ddisgrifio ei amser yn Jaguar Land Rover, dywedodd Peter:
“Nid yw fy nghwrs ym Mangor yn cynnwys lleoliad proffesiynol, ond mae’r cyfle i ddod i weithio bob haf i gwmni sy’n flaenllaw yn y byd yn ormod o gyfle i’w golli! Mae cael cyfle i fynd i weithio mewn diwydiant yn ystod fy nghyfnod yn fyfyriwr wedi rhoi syniad da imi ynglŷn â’r modd y cynllunnir projectau a’u cynnal yn y byd go-iawn, a hynny wedi fy helpu’n wirioneddol i wneud fy ngwaith prifysgol. Mae hefyd wedi dangos imi fod gwerth gwirioneddol i’m gradd – ni fyddwn i fyth wedi gallu cwblhau’r gwaith rwy’n ei wneud heb y wybodaeth a gefais yn ystod fy amser ym Mangor. Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir; mae bod o gwmpas gweithwyr proffesiynol eraill wedi dangos ffyrdd newydd imi o feddwl ac o wneud pethau y byddaf yn bendant yn eu defnyddio yn fy ngwaith prifysgol. Mae fy lleoliad hefyd wedi pwysleisio mor bwysig yw bod yn aelod o dîm, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn fy helpu gyda fy mhroject blwyddyn olaf.
“Hwn yw fy ail haf yn Jaguar Land Rover. Eleni, rwy’n gweithio gyda’u Tîm Ymchwil, sef Peerless Effortless All Terrain (PEAT). Mae tîm PEAT yn canolbwyntio ar adeiladu technolegau newydd i mewn i geir, er mwyn cynorthwyo gyrwyr i yrru, yn hytrach na chymryd yr awenau’n llwyr, fel yn achos cerbydau sy’n eu gyrru eu hunain. Wrth i’r diddordeb cynyddol yn y byd modurol symud tuag at dechnolegau gyrru hunan-reolaethol, mae cwsmeriaid, yn enwedig oddi ar y ffordd, yn awyddus i ymwneud â’r cerbyd, yn hytrach na chael eu gyrru ynddo.
“Bûm yn gweithio ar fy mhroject fy hun, a ddewisais o blith rhestr o awgrymiadau pan gychwynnais, yn ogystal â helpu’n rhan-amser ar broject arall oedd ar waith o fewn y tîm. Oherwydd nodweddion yr adran, nid wyf yn rhydd i drafod yr union beth rwy’n gweithio arno, ond mae’n bendant yn defnyddio’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu yn y Brifysgol, ar y ochr electronig fy ngradd a hefyd ar yr ochr gyfrifiadurol.
“Yn fy lleoliad haf blaenorol, roeddwn yn gweithio ochr yn ochr â thîm Ansawdd Trydanol Jaguar Land Rover, sy’n gyfrifol gynnal ansawdd uchel delwedd y cwmni a’i gynhyrchion. Mae Ansawdd Trydanol yn is-dîm sy’n goruchwylio gweithrediadau’r adran Peirianneg Drydanol. Roedd y lleoliad hwn yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ddata ac yn seiliedig ar adroddiadau ar warant a dangosyddion ansawdd eraill, ond bu hefyd yn cynnwys sawl wythnos o brofiad ymarferol yng nghyfleusterau cynhyrchu Solihull a Castle Bromwich, a hynny’n brofiad rhyfeddol.
“Cefais agoriad llygad gwirioneddol o dreulio peth amser ar safleoedd cynhyrchu Jaguar Land Rover – profiad nad oes ond ychydig o bobl oddi allan i’r cwmni’n ei gael. Fel myfyrwyr peirianneg, rydym yn cynllunio ac adeiladu pethau trwy’r amser, ond nid oes gennym ryw lawer o ddealltwriaeth na phrofiad o’r modd y mae cynhyrchu ar raddfa enfawr yn gweithio.
“Pan ewch i safle cynhyrchu, mae’n brofiad syfrdanol edrych ar gar sydd wedi’i gynllunio gan beirianwyr fel ni yn cael ei adeiladu o’r dechrau un o flaen eich llygaid ac yn rhyfeddol o gyflym. Mae’n gwneud rhywun yn werthfawrogol iawn o’r holl waith caled ac oriau gweithwyr sydd wedi mynd at gynllunio car a’r prosesau sydd wedi’u defnyddio i’w adeiladu, ac mae gweld y cynnyrch terfynol a roddir i gwsmeriaid yn fy ysgogi i sicrhau y byddaf bob amser yn gwneud fy ngorau mewn unrhyw waith a wnaf.”
Meddai Dr Jeff Kettle, Tiwtor Personol Peter, “Rhyw 12 o ymgeiswyr yn unig a ddewiswyd ar draws y DU. Cafodd ei gyfwelwyr argraff wych; ef oedd yr unig ymgeisydd o blith 30 yr oedd pob un o’r panel cyfweld o blaid rhoi nawdd iddo.
“Mae’r lleoliad yn dyst gwirioneddol i waith caled, brwdfrydedd a gallu Pete. Mae ei farciau wedi bod yn ardderchog ers iddo gychwyn ym Mangor, lle mae wedi datblygu ei wybodaeth dechnegol o’r pwnc. Mae hefyd wedi medru hyrwyddo sgiliau ychwanegol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan raddedigion mewn peirianneg, megis cyfathrebu a medrau rhyngbersonol.”
Hanesion cysylltiedig:
Peter Doggart – Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014