Newyddlenni
Lansio cymhwysiad ar gyfer cerdded Eryri
Yn ddiweddar, mae myfyriwr graddedig o Fangor wedi datblygu ei gymhwysiad symudol cyntaf, sef Walking in Snowdonia. Yn 2000, enillodd Andy Harbach, 34, o Fangor, radd Meistr mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol, ac mae ganddo ei fusnes TG ei hun, Snowdonia IT Services, ers 7 mlynedd.
Mae busnes Andy yn datblygu gwe-gymwysiadau a systemau e-fasnach. Mae hyn yn deillio’n uniongyrchol o’i addysg Brifysgol, am fod angen gradd mewn cyfrifiadureg arno er mwyn cychwyn ar ei yrfa fel rhaglennwr yng nghwmni Secure Trading sydd wedi’i leoli ym Mangor – un o’r darparwyr cyntaf yn y DU o wasanaethau talu annibynnol ar y Rhyngrwyd.
Meddai Andy, sy’n fynyddwr brwd, “Mae gen i fy ngwefan fy hun ar gerdded Eryri ers mwy na 15 mlynedd. Gyda newidiadau mewn technoleg, ag wrth i i-Ffonau ddod yn boblogaidd, roedd ysgrifennu cyd-gymhwysiad i-Ffôn y gallai pobl ei gludo o gwmpas fel pe bai’n estyniad naturiol ar hynny. Y cymhwysiad hwn oedd yr un cyntaf ar ôl imi fynd ar gwrs ar ddatblygu meddalwedd i-Ffonau a gynhaliwyd gan Software Alliance Wales ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’r cymhwysiad wedi’i anelu at unrhyw rai a hoffai gerdded mynyddoedd Eryri ond nad ydynt yn adnabod y llwybrau’n arbennig o dda. Wrth reswm, ni ddylai pobl ddibynnu ar y cymhwysiad at ddibenion llywio, a rhaid iddynt fod â map priodol a medrau defnyddio cwmpawd cyn mentro allan i’r mynyddoedd.”
Bydd Andy yn parhau i ychwanegu llwybrau newydd at y cymhwysiad a’r wefan wrth iddo ymweld ag ardaloedd newydd. Efallai y bydd hefyd yn datblygu nodweddion ychwanegol, megis y gallu i gofnodi llwybrau sydd wedi’u cwblhau, ac i ychwanegu sylwadau at lwybrau. Mae Andy hefyd yn aelod o Sefydliad Achub o’r Mynyddoedd – Dyffryn Ogwen.
I lawrlwytho cymhwysiad ‘Walking in Snowdonia’, ewch i’r Storfa Gymwysiadau ar eich i-Ffôn.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012