Newyddlenni
Meini hirion Môn yn llamu i’r oes digidol
Meini hirion Ynys Môn fydd pwnc ffynhonnell wybodaeth gyffrous newydd a gyflwynir mewn tri dimensiwn, ac mae’r diolch am hyn i wyddonydd cyfrifiadurol o Brifysgol Bangor.
Enillodd Dr Jonathan Roberts o Ysgol Cyfrifiadureg y Brifysgol grant ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ddefnyddio technoleg weledol tri dimensiwn.
Yn y project bydd gwyddonwyr cyfrifiadurol yn cydweithio ag archeolegwyr o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg y Brifysgol ac o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ac academyddion ym mhrifysgolion Aberystwyth a Manceinion (Metropolitan) er mwyn adeiladu adnodd gweledol o wybodaeth am feini hirion Ynys Môn. Bydd yr adnodd hwnnw wedyn ar gael i bawb.
Dewiswyd y project ‘The Co-Production of alternative views of lost heritage’ mewn cystadleuaeth i dderbyn grant sylweddol gan Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau dan y cynllun Digital Transformations in Community research Co-Production in the Arts and Humanities. Bydd yn defnyddio’r technolegau diweddaraf sydd ar gael i archeolegwyr, a hynny mewn project sydd hefyd yn gofyn am gyfraniad gan y cyhoedd fel archeolegwyr amatur neu ffotograffwyr. Amcan y project yw creu gwybodaeth dri dimensiwn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf am feini hirion nodedig Ynys Môn, ac am safleoedd archeolegol a henebion eraill yng Ngogledd Cymru.
Bydd y project yn defnyddio techneg gyfrifiadurol weledol newydd, sef photogrammetry, i greu delweddau tri dimensiwn o’r meini hirion. Caiff y rhain eu ‘pwytho’ at ei gilydd o ddelweddau digidol unigol a dynnwyd ac a gyflwynwyd gan y cyhoedd.
Yna, caiff detholiad o ddelweddau tri dimensiwn, a wnaed drwy gyfuno’n ddigidol rhwng 3 ac 20 delwedd o’r un maen hir, eu hargraffu’n dri dimensiwn. Bydd y modelau’n galluogi defnyddwyr i ddefnyddio bwrdd arbennig a fydd yn codi ac arddangos yr holl wybodaeth berthnasol am y maen hir arbennig hwnnw ar sgrin gyfrifiadurol fawr.
Disgwylir i’r project gael ei gwblhau o fewn 18 mis a hwn yw’r ail broject tebyg rhwng gwyddonwyr cyfrifiadurol ac archeolegwyr y Brifysgol ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Roedd y project cyntaf yn canolbwyntio ar greu delweddau tri dimensiwn gan ddefnyddio hen luniau o feini hirion a safleoedd cyn hanes eraill.
Mae Dr Jonathan Roberts yn arbenigwr blaenllaw mewn delweddu yn Ysgol Cyfrifiadureg y Brifysgol. Mae’n ymddiddori yn y ffordd y caiff gwybodaeth ei chyflwyno a sut y gallwn ni ymwneud â data.
Meddai:
“Mae’r project yn ffordd wych o gael y cyhoedd i gymryd rhan mewn gwaith lle mae technoleg newydd ac archeoleg yn dod at ei gilydd. Dwi’n mawr obeithio y bydd y project yn ysbrydoli unigolion brwdfrydig, ac efallai ysgolion a theuluoedd, i fynd ati i dynnu lluniau o’r cerrig ac yna derbyn y wybodaeth 3D a gweld eu modelau 3D yn cael eu hargraffu.”
Meddai’r Athro Raimund Karl, Athro Archeoleg a Threftadaeth: “Dyma ffordd ragorol i gael pobl i ymddiddori mewn archeoleg. Bydd yn galluogi pobl i gymryd rhan llawer mwy amlwg mewn rheoli eu treftadaeth a gwneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch beth sy’n bwysig iddynt.”
Mae gwybodaeth bellach am sut i gymryd rhan ar gael ar wefan y project: heritagetogether.org
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2014