Newyddlenni
Peirianneg ym Mangor yn ennill £500k i gynnal project CLARET
Mae cyfleuster newydd unigryw wedi agor ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y Ganolfan, y cyntaf o'i bath yng Nghymru, yn galluogi busnesau i brofi ystod eang o offer electronig plastig, offer yn ymwneud â gofod a chelloedd solar.
Mae'r 'Centre for Lifetime And REliability Testing' (CLARET) yng Nghymru wedi cael ei gwireddu drwy gyllid gan Lywodraeth y Cynullid drwy'r rhaglen A4B, a roddodd grant o £500k i'r Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor i greu'r Ganolfan. Prif nod y ganolfan newydd hon a'i chyfleusterau yw denu defnyddwyr o'r tu allan - o ddiwydiant yn benodol.
Bydd y cyfleuster newydd hwn, sydd o safon ddiwydiannol, yn galluogi busnesau rhanbarthol a chenedlaethol sy'n ymwneud â dylunio, cynhyrchu neu integreiddio technolegau optoelectroneg a deunyddiau, i ddefnyddio offer profi dibynadwyedd a hefyd fanteisio ar arbenigedd academaidd a chefnogaeth i fusnesau.
Meddai Glyn Fargher, Rheolwr Datblygu Busnes y project Claret:
"Y sector offer electronig plastig ym Mhrydain yw'r pumed mwyaf yn y byd ac mae'n werth tua £0.25m. Ymhellach, rhagwelir y bydd y sector ffotofoltaidd solar, un o'r wyth o dechnolegau ynni adnewyddadwy allweddol, yn werth £15bn i'r DU erbyn 2018. Mae cwmnïau o Gymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn gyfran bwysig o'r ddwy sector yma ac mae'n hanfodol bod cefnogaeth ymarferol leol ar gael yn rhwydd i helpu'r cwmnïau hyn i leihau amseroedd datblygu a darparu gwell cynhyrchion."
"Bydd y Labordai CLARET newydd yn cefnogi ymchwil o safon uchel yn yr Ysgol yn ogystal â galluogi'r Ysgol i weithio gyda busnesau lleol ar ymchwil a datblygu ar gyfer offer electronig plastig newydd a chyffrous, fel OLEDs a geir mewn sgriniau teledu a ffonau symudol, neu'r genhedlaeth nesaf o gelloedd solar y gellir eu hintegreiddio'n uniongyrchol i gymwysiadau isadeiledd adeiladu, cludiant neu ofod," ychwanegodd.
Bydd y project yn galluogi'r Ysgol i brynu cyfres o offer profi newydd. Bydd y rhain yn rhan o gyfleuster swyddogaethol sylfaenol yn yr Ysgol. Ar ôl profi, bydd y Ganolfan yn ehangu ei galluoedd er mwyn creu Cyfleuster Ewropeaidd ar Raddfa Fawr.
Bydd CLARET yn adeiladu ar weithgaredd yn yr Ysgol Electroneg sydd wedi cael cefnogaeth gan yr EPSRC, y Gymdeithas Frenhinol, ASTUTE, Interreg a TSB i ddarparu cyfleuster newydd i ddiwydiant ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd y cyfleuster newydd hwn yn ychwanegu at y buddsoddiadau blaenorol, gwerth sawl miliwn o bunnau, y mae'r Ysgol wedi eu derbyn i sicrhau offer amrywiol i greu cyfleusterau o'r safon uchaf posibl.
Bydd y cyfuniad hwn o gyfleusterau'n unigryw ym Mhrydain ac Ewrop a nod yr Ysgol yw datblygu canolfan Ewropeaidd o ragoriaeth yng Ngogledd Cymru. Mae'r offer newydd yn rhoi synergedd gyda chanolfannau eraill ar draws y DU. Bydd y Ganolfan yn rhoi dimensiwn ychwanegol i'r pum Plastic Electronics Centres of Excellence (PECOEs) a chanolfannau Ymchwil a Datblygu o bwys ym maes celloedd solar yn y DU. Mae'r Ysgol Electroneg ym Mhrifysgol Bangor yn yr 2il safle yn y DU am ei gwaith ymchwil ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2014