Newyddlenni
REF yn cadarnhau twf yn ansawdd ymchwil
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn dangos bod yr Ysgol Cyfrifiadureg wedi gwella ansawdd proffil ei chynnyrch ymchwil.
Fe wnaeth yr Athro Nigel John, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg, groesawu canlyniadau REF 2014, lle roedd ymchwil o'r Ysgol yn un o 14 o gyflwyniadau a wnaed gan y Brifysgol.
Meddai, "Mae ansawdd ein cynnyrch (cyhoeddiadau) wedi cynyddu'n sylweddol, gyda 66% yn awr yn cael eu hystyried fel rhai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol."
Daw canlyniadau'r REF ddim ond ychydig fisoedd ar ôl canlyniadau rhagorol Prifysgol Bangor yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, lle daeth yn uchaf yng Nghymru ac yn seithfed yng ngwledydd Prydain o ran boddhad myfyrwyr.
"O'u hystyried ochr yn ochr â sgoriau'r NSS, mae canlyniadau REF 2014 yn pwysleisio pa mor ddeniadol yw astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, lle caiff myfyrwyr eu dysgu mewn Ysgol sy'n gynhyrchiol o ran ymchwil ac sydd hefyd yn cynnig profiad gwych i'w myfyrwyr," meddai'r Athro Nigel John.
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014