Newyddlenni
‘Roboteg y Dyfodol’, Her Robot Lego Ysgolion
Mae ysgolion ar draws Cymru wedi cymryd rhan yn yr her "Roboteg y dyfodol" yn gydamserol yn ddiweddar. Tîm Technocamps Prifysgol Bangor oedd yn cynnal y rownd gogledd Cymru o'r gystadleuaeth newydd gyffrous hon.
Cafodd deg pecyn cystadleuaeth gwerth £500 yr un eu rhoi i 10 o ysgolion lleol trwy’r prosiect Technocamps ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd y rhain eu defnyddio mewn clybiau technoleg yr ysgolion ac yn y gystadleuaeth.
Mynychodd timau o chwech o ddisgyblion rhwng 11 a 19 oed o’r 10 ysgol y gystadleuaeth yn Venue Cymru, Llandudno ar y 3ydd o Orffennaf.
Cafodd y digwyddiad ei hagor gan y cyflwynydd teledu, Gareth Jones. Fe fuodd Gareth hefyd yn arwain y digwyddiad drwy gydol y diwrnod.
Roedd rhaid i'r disgyblion adeiladu robot y dyfodol cyn y digwyddiad, ac roedd gofyn i’r robot helpu’r amgylchedd mewn unrhyw ffordd bosibl. Derbyniodd y disgyblion her gudd ar y diwrnod hefyd.
Roedd hon yn gystadleuaeth genedlaethol gydamserol ar draws y pedair hwb Technocamps. Roedd canolfannau Technocamps ym Mhrifysgolion Abertawe Aberystwyth a Morgannwg hefyd yn cynnal eu cystadlaethau gyda chysylltiadau fideo byw, gyda nifer o 'hangouts' we yn parhau drwy gydol y dydd.
Ar y diwrnod, cafodd yr ysgolion eu barnu ar eu dyluniadau a datblygiadau, yn ogystal â her lle’r oedd rhaid iddynt addasu eu robot i ddawnsio i guriad cerddorol. Cafodd enillwyr rhanbarthol y gystadleuaeth eu cyhoeddi yn fyw, gydag Ysgol Friars o Fangor yn dod i’r brig. Cafodd enillwyr drwy Gymru gyfan eu cyhoeddi dydd Llun, ac Ysgol Gyfun Gwynllyw o Bontypwl oedd yn fuddugol.
Dywedodd Kim Jones, trefnydd y digwyddiad Bangor: "Roedd hwn yn ddigwyddiad mor gyffrous i’w drefnu, roedd hi’n wych gweld cymaint o ysgolion yn cymryd rhan ac roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o ddigwyddiad ledled Cymru. Fe wnaeth yr ysgolion yn gampus yn y sialensiau ac roedd y dyluniadau yn ffantastig gyda llawer o syniadau diddorol a newydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2013