Mynd i’r Brifysgol
Ydych chi’n ystyried mynd i’r brifysgol ond ddim yn siŵr lle i gychwyn? Mae paratoi ar gyfer mynd i’r Brifysgol yn medru bod yn llethol, dyna pam ein bod ni wedi creu’r safle Mynd i’r Brifysgol i’ch helpu chi drwy’r broses.
Gwneud cais
Darllenwch ein hawgrymiadau ar sut i gychwyn edrych am brifysgol a sut i baratoi eich cais. Dewch i wybod mwy am y system UCAS a sut i greu argraff gyda’ch datganiad personol.
Cyllid Myfyrwyr
Pan fyddwch yn dod i Brifysgol, mi fydd gennych ddau brif gost. Dyma fydd eich Ffioedd Dysgu a Chostau Byw. Darllenwch fwy am ariannu eich astudiaethau ar ein safle Mynd i’r Brifysgol.
Y gwahaniaeth rhwng Ysgol a Phrifysgol
Bydd y Brifysgol yn wahanol iawn i’r ysgol mewn sawl ffordd ond bydd cefnogaeth ar gael i wneud yn siŵr eich bod yn addasu i fywyd prifysgol yn hawdd.
Lle fyddai’n byw?
A fyddwch chi’n byw gartref yn ystod eich amser yn y Brifysgol ynteu mewn neuadd breswyl? Dewch i wybod mwy am y mathau gwahanol o neuaddau sydd ar gael ym Mangor a sut i wneud cais.
Geiriau a Thermau defnyddiol
Ydi’r holl eiriau a therminoleg newydd yn eich drysu? Peidiwch â phoeni, rydym yma i’ch helpu i ddeall y geiriau a thermau newydd yma ac i ateb cwestiynau a ofynnir yn aml i’ch helpu ar hyd y ffordd.