Pam astudio yma?
Pam dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor?
Rhagoriaeth academaidd ac ymchwil
Wedi'i sefydlu ym 1884, mae Prifysgol Bangor yn cyfuno rhagoriaeth academaidd draddodiadol ag ymchwil ac offer blaengar ac mae wedi'i henwi yn y 20 uchaf ar gyfer Ansawdd Ymchwil - Complete University Guide 2022
Ystod o Arbenigedd
Ceir tri Choleg yn y Brifysgol sy’n cynnwys tri ar ddeg o Ysgolion Academaidd, yn ogystal â thros hanner cant o ganolfannau ymchwil arbenigol, gan ei gwneud yn bosibl darparu dros 150 o gyrsiau ôl-radd sy’n cynnwys y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau.
Boddhad myfyrwyr
Ymysg y 10 Uchaf am foddhâd myfyrwyr - Complete University Guide 2022 a 1af yng Nghymru am foddhâd myfyrwyr – NSS 2021
Datblygiad Academaidd
Rydym yn credu’n gryf mewn cefnogi datblygiad academaidd ein hôl-raddedigion. Mae ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cam Cynnar (ERDP) yn darparu hyfforddiant a gweithdai a fydd yn eich helpu i ddatblygu a dal gafael ar y sgiliau ymchwil, galwedigaethol ac entrepreneuraidd allweddol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion eich gyrfa yn y dyfodol.
Gwasanaethau Cefnogi
O’r funud y cyrhaeddwch, byddwch yn derbyn cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sy’n bosibl gyda materion iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd. Yn ein canolfan Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr cewch gyngor a chyfarwyddyd ar faterion yn ymwneud ag arian a thai i gefnogaeth ag anabledd, cwnsela a darpariaeth ffydd yn lleol.
Gosodiad Ysblennydd
Gall y cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol fod yn allweddol i lwyddiant eich astudiaeth ôl-radd. Mae Bangor wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd Parc Cenedlaethol Eryri a milltiroedd o arfordir dramatig. Mae’n un o’r lleoliadau astudio mwyaf deniadol ym Mhrydain, ac yn lle gwych ar gyfer pob math o chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.
Lleoliad cyfleus
Mae Bangor wrth wraidd rhwydwaith cludiant yr ardal, gyda chysylltiadau cyflym â char neu drên i â chi i Lerpwl a Manceinion mewn dim ond 90 munud. Mae lleoliad Bangor ar y prif lwybr o Lundain i Gaergybi yn golygu bod y gwasanaeth fferi rheolaidd o Borthladd Caergybi i Ddulyn yn ddim ond 20 munud i ffwrdd, tra bydd trên uniongyrchol yn mynd â chi i ganol Llundain mewn ychydig dros 3 awr.
* heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig.