Canllawiau ar gyfer cadeirio cyfarfodydd dwyieithog
Cadeiryddion - pwyntiau i'w cofio :
- Croesawch bawb i'r cyfarfod yn Gymraeg a Saesneg.
- Eglurwch bod y cyfarfod yn un dwyieithog a bod croeso i bobl gyfrannu yn Gymraeg neu Saesneg.
- Gwiriwch fod gan bawb sydd eu hangen benset a'u bod yn gweithio a chyflwynwch y cyfieithydd ar y pryd.
- Os ydych yn siarad Cymraeg:
- cadeiriwch gymaint â phosib o'r cyfarfod yn Gymraeg er mwyn rhoi hyder i aelodau ddefnyddio'r Gymraeg
- os ydych yn teimlo bod iaith y cyfarfod yn troi'n ormodol i'r Saesneg, gallwch ymateb yn Gymraeg i sylwadau a chwestiynau Saesneg.
- Os nad ydych yn siarad Cymraeg:
- defnyddiwch rai ymadroddion allweddol i wneud yn siŵr fod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn rheolaidd o'r gadair.
- Caewch y cyfarfod yn Gymraeg a Saesneg.
- Diolchwch i'r cyfieithydd ar y pryd.