Mae Pecyn Hyfforddiant Iaith Gymraeg y Brifysgol yn cefnogi staff ar wahanol lefelau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd yn y gwaith ac yn gymdeithasol. Wrth i ni barhau i weithio o bell, mae’r Cynllun Hyfforddiant wedi’i strwythuro o amgylch pedair elfen. Cewch ddewis dilyn un elfen neu gyfuniad o opsiynau.