Newyddion: Gorffennaf 2019
Ymchwil i ailgyflwyno'r Lyncs yn ennill gwobr myfyriwr y Deyrnas Unedig
Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Meistr y Flwyddyn gyntaf y Deyrnas Unedig i fyfyriwr y mae ei ymchwil wedi gwneud newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan wefan FindAPhD . Cynhaliodd Thomas Ovenden, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Stirling, ei MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei broject ymchwil meistr ar botensial ailgyflwyno'r lyncs Ewrasiaidd, rhywogaeth sydd wedi diflannu ym Mhrydain ers dros 1,000 o flynyddoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
Bydd Ellie yn y ras!
Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig wedi ei derbyn ar Ysgoloriaeth Peirianneg gwerthfawr o bwys. Derbyniodd Ellie’r newyddion ei bod yn llwyddiannus wrth cael ei derbyn ar Raglen Ysgoloriaeth Women in Engineering Prifysgolion Santander tra’n mynychu digwyddiad yn Silverstone yn ddiweddar. Cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr llwyddiannus gan Brif Weithredwr Santander UK, Nathan Bostock a'r llysgennad Jenson Button yng nghystadleuaeth fyd-eang 2019 Formula Student .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
A fydd Ellie yn y ras?
Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig , yn mynd i Silverstone fory (20 Gorffennaf) am ddiwrnod bythgofiadwy. Bydd Ellie’n mynychu digwyddiad unigryw yn Silverstone gyda swyddogion gweithredol Santander a ffigurau amlwg o’r byd rasio ceir.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Proffil Unigolyn sy'n Graddio: Emma Watson
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Alumnus y Flwyddyn 2019
Mae gan Brifysgol Bangor bron i 80,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ledled y byd, yn gweithio ym mhob maes a diwydiant y gallwch ddychmygu. Mae’r Brifysgol yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr ac, i dynnu sylw at hyn, bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn dewis Alumnus y Flwyddyn, gan anrhydeddu myfyriwr sydd wedi graddio ym Mangor ac sydd wedi rhagori yn ei faes, ac wedi parhau i ymwneud â'u alma mater. Ymhlith y rhai a dderbyniodd Alumnus y Flwyddyn gynt mae Gwilym Rees-Jones (Mathemateg, 1963), Dr Ross Piper (Sŵoleg, 1998) a Ray Footman (Hanes ac Athroniaeth, 1961).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2019
Proffil yr Unigolyn â Gradd: Elizabeth Crooks
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019
Tywydd poeth am gyfnod hir yn lladd mwy na dwy ran o dair o'r cwrel
Astudiaeth yn dangos y collwyd riffiau cwrel helaeth yng nghefnfor India rhwng 2015 a 2017 Drwy gymharu riffiau cyn ac ar ôl dau gyfnod o dywydd poeth eithafol dim ond 12 mis ar wahân, darganfu tîm cydweithredol o ymchwilwyr, gan gynnwys gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor bod cwrelau caled byw yng Nghefnfor yr India wedi lleihau 70%. Er gwaethaf hyn, mae eu canlyniadau'n awgrymu bod rhai rhywogaethau cwrel yn fwy gwydn i dymheredd sy'n codi, sy'n cynnig gobaith i'r cynefinoedd hanfodol hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019
Sut gall eich dewis chi o ddiod bach yn y pnawn helpu i achub coedwigoedd law
Dyma'r adeg o'r flwyddyn i gael 'gin a tonic' oer gyda rhew yn y prynhawn. Efallai ein bod yn cwestiynu effaith gormod ohonynt ar ein hiechyd, ond beth yw ôl-troed amgylcheddol yr aperitif blasus a chlasurol hwn? Ymunodd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr gyda rheolwr distyllfa arloesol i ateb y cwestiwn hwn mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddonol Environment International .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2019
Trafod Gwir Llew-Frenin y Gwyllt
Gyda Disney yn paratoi i ryddhau fersiwn newydd o’r ffilm The Lion King y mis yma, mae Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn edrych ar sut mae’r ffilm wreiddiol yn portreadu ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Arbenigwyr a disgyblion ysgolion lleol i gyd-drafod Argyfwng Hinsawdd
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu disgyblion o ysgolion lleol i Uwchgynhadledd yr Ifanc ar Newid Hinsawdd i'w chynnal yn y Brifysgol heddiw. Wedi i’r Brifysgol ymuno â'r nifer o sefydliadau ledled y byd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r Brifysgol yn awyddus i weithio ar ddatrusiad ac mae’n angenrheidiol gwneud hynny ar y cyd â phlant a phobl ifanc Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Coedwigwyr Bangor yn Alpau'r Eidal
Cafodd graddedigion a myfyrwyr coedwigaeth Prifysgol Bangor brofiad o reoli coedwigoedd alpaidd o safon uchel ar ymweliad â rhanbarth Piedmont yn yr Eidal ar daith astudio dramor .
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2019