Newyddion: Medi 2021
Rhew môr yr Arctig a'r hinsawdd: Gwyddoniaeth a’r Senedd yn clywed am ymchwil diweddaraf Prifysgol Bangor
Bydd yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn annerch Senedd Cymru a chynulleidfa ar-lein, pan fydd yn siarad yn y digwyddiad Gwyddoniaeth a'r Senedd a drefnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ddydd Mawrth 28 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2021
Dod â lleisiau o goedwig law Madagascar i ganol y ddadl ryngwladol ynghylch y newid yn yr hinsawdd
Mae’n flwyddyn bwysig i gadwraeth y coedwigoedd, ac mae ffilm newydd yn dod â lleisiau a safbwyntiau rhai y mae cadwraeth coedwigoedd yn effeithio arnynt, i ganol y ddadl ynghylch polisi rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2021
Tobias yn ennill y wobr papur myfyriwr gorau
Enillodd Tobias Barthelmes y wobr am y papur technegol gorau gan fyfyrwyr yn y gynhadledd Computer Graphics & Visual Computing 2021 (CGVC), a gynhaliwyd o 8 - 10 Medi 2021.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2021
Towards a National Collection - £14.5m wedi'i ddyfarnu i drawsnewid dulliau ar-lein o archwilio casgliadau diwylliant a threftadaeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio deallusrwydd artiffisial arloesol
Bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn project, sy’n un o blith pum project sylweddol y dyfarnwyd £14.5m iddynt gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2021
Pa ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol ydych chi'n eu gwybod?
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Rhaglenwyr yn dathlu sut mae rhaglenwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau bob dydd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2021