Cyfle i gael Tystysgrif Ymwybyddiaeth Fasnachol am ddim
Unwaith yn rhagor mae israddedigion Y Gyfraith ym Mangor yn cael cyfle i fynd am ddim i raglen a fydd yn cryfhau a gwella eu rhagolygon gyrfa.
Mae tystysgrif ymwybyddiaeth fasnachol Ysgol y Gyfraith BPP yn tynnu sylw at yr angen i fyfyrwyr Y Gyfraith roi sylw i faterion masnachol a magu ymwybyddiaeth busnes; mae hefyd yn rhoi blas o’r hyn y gellir ei ddisgwyl ar Gwrs Ymarfer Cyfreithiol. Cynigir y rhaglen am ddim i fyfyrwyr Y Gyfraith ym Mangor gan fod BPP yn parhau i gefnogi a chynorthwyo Cymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr Bangor.
Mae cwmnïau cyfreithiol yn asesu ymwybyddiaeth fasnachol yn ystod pob cam o’r broses ymgeisio – ffurflen gais, canolfan asesu a chyfweliad – ac mae’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i wynebu’r math o senarios y gallant ddod ar eu traws. Gyda sylwadau gan y bobl broffesiynol amlycaf yn y byd cyfreithiol ynghylch yr hyn sy’n gwneud i gais am gontract hyfforddi ddisgleirio, bydd y rhaglen hon yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn y llwybr gyrfa neilltuol hwn.
Cynhelir dwy sesiwn gyntaf y rhaglen yn Ystafell Ddarlithio 4 Prif Adeilad y Celfyddydau ddydd Mercher, 12 Hydref 2011, rhwng 12.00 a 2.00pm. Caiff myfyrwyr fydd yn cwblhau’r cam yma eu gwahodd wedyn i ddod i’r drydedd sesiwn, a’r olaf, ym Manceinion yn Chwefror 2012 er mwyn gorffen y cwrs a derbyn y dystysgrif.
Sylwer mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cyrsiau, felly cynghorir myfyrwyr i ddod i’r sesiwn gyntaf yn brydlon.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2011