Myfyrwraig y Gyfraith ym Mangor yn ennill ysgoloriaeth bwysig gan Lincoln's Inn
Mae myfyrwraig y gyfraith ym Mangor wedi ennill ysgoloriaeth bwysig i wireddu ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr.Mae Kate Longson, myfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn, wedi ennill ysgoloriaeth i astudio’r BPTC yn Ysbyty Lincoln
Mae Kate Longson, myfyrwraig yn nhrydedd flwyddyn y cwrs LLB y gyfraith, wedi ennill ysgoloriaeth mynediad Hardwicke sydd werth £300 tuag at y gost o astudio cwrs hyfforddiant proffesiynol y bar (BPTC) yn Lincoln's Inn. Mae’r ysgoloriaeth yn talu'r gost o ymuno â’r Inn, yr holl gostau bwyta yn ystod y cwrs a’r ffioedd galw ar ôl cwblhau’r cwrs.
“Mae’r ffaith fy mod wedi ennill yr ysgoloriaeth yma mewn maes mor gystadleuol wedi rhoi hwb mawr i fy hyder”, meddai Kate o Swydd Stafford. “mae'n debyg mai un ymgeisydd o bob pump sy’n llwyddo, felly mae’n deimlad gwych bod sefydliad mor uchel ei barch wedi dewis buddsoddi ynof fi a’m dyfodol.”
Ychwanegodd: “roedd y dull personol o ddysgu yn Ysgol y Gyfraith Bangor yn fantais bendant i mi wrth wneud fy nghais i Ysbyty Lincoln. Roedd yn braf gallu eistedd gyda Phennaeth yr Ysgol ac edrych dros fy nghais gyda’n gilydd, rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei wneud mewn ysgol fwy. Mae’r ffaith bod gan y staff wybodaeth ymarferol am eu pwnc hefyd yn gymorth mawr - gan eu bod wedi gweithio fel ymarferwyr cyfreithiol, maen nhw'n deall y maes yn iawn.
Mae Kate hefyd wedi cael ei gwahodd i gyfweliad am ysgoloriaeth arall – gwerth hyd at £17,000 – ym mis Mawrth ac os bydd yn llwyddiannus bydd yr ysgoloriaeth yn mynd tuag at dalu ffioedd ei chwrs.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2012