Cynllun Cyhoeddi Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae Prifysgol Bangor wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi Model y Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod y dosbarthiadau gwybodaeth canlynol ar gael i'r cyhoedd. Fe ddewch o hyd i'r rhan fwyaf o'r wybodaeth hon ar ein gwefan trwy ddilyn y cysylltiadau o dan y disgrifiadau dosbarth perthnasol.
- Pwy ydym ni a'r hyn yr ydym yn ei wneud
- Yr hyn yr ydym yn ei wario a sut yr ydym yn ei wario.
- Beth yw ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn dod ymlaen
- Sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau
- Ein polisïau a'n gweithdrefnau
- Rhestrau a chofrestri
- Y gwasanaethau a gynigir gennym
Mae gwybodaeth bellach am bob dosbarth ar gael yn Nogfen Ddiffinio'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill.
Hefyd mae'r brifysgol wedi darparu Arweiniad i Wybodaeth sy'n rhoi rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd ar gael yn arferol o dan bob dosbarth, sut mae modd mynd at y wybodaeth honno, a lle bo'n briodol, unrhyw dâl a godir.
Gwybodaeth sydd wedi ei heithrio
Ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth uchod yn cynnwys fel rheol:
- Gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu o dan y gyfraith neu sydd wedi ei heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu yr ystyrir fel arall ei bod wedi ei gwarchod rhag ei datgelu;
- Gwybodaeth ar ffurf ddrafft;
- Gwybodaeth nad yw ar gael yn rhwydd oherwydd ei bod mewn ffeiliau sydd wedi eu cadw mewn archifau neu sydd yn anodd mynd ati am resymau tebyg.
- Gwybodaeth mewn Fformatau eraill
Bydd y brifysgol yn cyhoeddi gwybodaeth yn y Gymraeg yn unol â'i Chynllun Iaith Gymraeg
Hefyd bydd y brifysgol yn darparu gwybodaeth mewn ffurfiau a fformatau eraill yn unol â gofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Os bydd arnoch angen unrhyw wybodaeth mewn fformat amgen cysylltwch â Gwenan Hine, Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio.
Ffioedd
Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth yng nghynllun cyhoeddi'r brifysgol ar gael am ddim ar ein gwefan Mewn achosion lle mae'n anymarferol darparu gwybodaeth dros y we, mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffioedd i dalu am lungopïo, postio a phecynnu.
Hawlfraint
Mae'r rhan fwyaf o'r cyhoeddiadau a restrir yng nghynllun cyhoeddi'r brifysgol o dan hawlfraint Prifysgol Bangor. Gall atgynhyrchu deunydd a ddarparwyd trwy'r cynllun cyhoeddi neu mewn ymateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth heb i'r brifysgol (neu ddeiliaid yr hawlfraint) ddatgan caniatâd dorri hawlfraint.
Gwybodaeth nad yw wedi ei chyhoeddi o dan y cynllun hwn
Er mwyn gofyn am wybodaeth arall nad yw wedi ei chyhoeddi o dan y cynllun hwn cysylltwch â Gwenan Hine, Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio. Ystyrir darparu'r wybodaeth hon yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a'r Ddeddf Diogelu Data.
Cysylltwch â:
Gwenan Hine
Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio
Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio
Prifysgol Bangor University
Ffordd y Coleg, Bangor
Gwynedd LL57 2DG
info-compliance@bangor.ac.uk