'Meet the C-Suite Executive' with Andrew Okai
- Lleoliad:
- Teams ar-lein
- Amser:
- Dydd Mercher 30 Mawrth 2022, 14:00–15:00
- Cyswllt:
- Hannah Daly: mlu839@bangor.ac.uk
Dyma eich gwahodd i'n gweddarllediad nesaf yn y gyfres 'Meet the C-Suite Executive' ddydd Mercher 30 Mawrth 2022 am 14:00. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai’r siaradwr gwadd yn y gweddarllediad hwn fydd Andrew Okai, Prif Weithredwr Grŵp i Letshego yn Botswana, a bydd yn cael ei gyfweld gan Stephen Jones, Cyfarwyddwr Academaidd y rhaglen MBA Banciwr Siartredig.
Graddiodd Andrew o'r rhaglen MBA Banciwr Siartredig yn 2014 ac rydym wrth ein boddau’n cael ei groesawu’n ôl i glywed am ei yrfa ers iddo raddio. Nod y digwyddiad yw deall taith Andrew i'w uchel, barchus swydd a chael cipolwg unigryw ar sut mae llwyddo i gael swyddi uwch yn y sector gwasanaethau ariannol.
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn dringo ysgol y sector ariannol neu ddysgu mwy am sut i fod yn brif swyddog, dyma ddigwyddiad na ddylech ei golli!
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar-lein hwn yma: https://bit.ly/3IJLdE1
Dysgwch fwy am Andrew Okai:
Mae gan Andrew fwy na 25 mlynedd o brofiad ym maes Bancio Rhyngwladol, ar ôl dechrau ei yrfa fel Hyfforddai Rheolaeth i Unilever yn Ghana. Yn ei rôl bresennol, Andrew a luniodd Strategaeth Drawsnewid Letshego o ran digideiddio systemau a rhoi ffocws o’r newydd ar ddatgloi potensial twf rhanbarthol y grŵp.
Cyn camu i’r swydd hon, mae Andrew wedi dal nifer o uchel swyddi gyda Standard Chartered Bank yn Ghana, Hong Kong, De Affrica, Zambia a Singapôr. Un o'r swyddi hynny oedd bod yn Brif Swyddog Gweithredu Manwerthu Grŵp (Group COO), lle'r oedd ei gyfrifoldebau'n rhychwantu 30 o wledydd ar draws 4 cyfandir gan arwain ar drawsnewid strategol. Yn ogystal â hyn, aeth Andrew ati hefyd i sefydlu Precept Human Capital, sef cwmni ymgynghorol i arfogi arweinwyr Affrica yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat gydag arferion rhyngwladol o ran arweinyddiaeth ac arbenigedd.