Croeso i'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
Rydym yn cynnig llawer o raglenni cyffrous, gan gynnwys Hanes Modern, Hanes Modern a Chanoloesol Cynnar, Archaeoleg, Treftadaeth, Athroniaeth a Chrefydd, y Gyfraith, Troseddeg, Plismona, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn ogystal â Gwleidyddiaeth.
Mae gennym hanes balch a hir o addysgu ac ymchwil o safon, gan fynd yn ôl, mewn rhai achosion, i 1884, pan sefydlwyd y Brifysgol. Er ein bod yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, mae gan yr Ysgol gryfderau ar draws pob disgyblaeth mewn addysgu ac ymchwil yn seiliedig ar gymdeithas, hunaniaethau, cyfiawnder a diwylliannau.
Yr Athro Peter Shapely