'The Dialogic Town in the Arthurian Romances of Chrétien de Troyes’
Darlith flynyddol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
- Lleoliad:
- Zoom
- Amser:
- Dydd Iau 24 Mawrth 2022, 17:30–18:30
- Cyswllt:
- arthur@bangor.ac.uk
Yr Athro Helen Fulton - Prifysgol Bryste
Ynghyd â’r sôn atgofus am dirwedd rhamantus a diffeithwch llawn heriau, mae trafodaethau llenyddiaeth sifalraidd hefyd yn sôn am drefi a diwylliant trefol. Trwy'r disgwrs trefol hwn, caiff trefi eu cyfleu fel gwedd 'arall' fenywaidd ar y goddrychedd gwrywaidd ymosodol. Yn rhamantau Arthuraidd Chrétien de Troyes o'r ddeuddegfed ganrif, mae trefi'n chwarae rhan bwysig: mae pob un o'i arwyr, Yvain, Eric a Perceval, yn cwrdd â'u partneriaid benywaidd mewn lleoliad trefol. Caiff trefi eu gosod yn wrthrychau dyhead gwrywaidd, a chaiff eu benyweidd-dra ei gyfleu trwy eu cysylltiad â menywod a masnach. Perthynas o ymddiddan sydd rhwng marchog a thref: mae merched a threfi’n cael eu grymuso i 'ymddiddan' â'r marchogion, gan ymholi ynghylch diwylliant a hunaniaeth sifalraidd. Mae'r ddialogiaeth yn wleidyddol yn ogystal â bod yn rhyweddol, gyda'r urddau ffiwdal a threfol yn gwneud honiadau sy’n cystadlu â’i gilydd o ran arglwyddiaeth a grym economaidd.
Helen Fulton sy’n dal cadair Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi wedi cyhoeddi'n helaeth ar lenyddiaeth ganoloesol Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys llenyddiaeth Arthuraidd. Ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Ymchwil Leverhulme Major gan weithio ar farddoniaeth wleidyddol Gymraeg yr Oesoedd Canol. Ymhlith ei llyfrau diweddar mae’r gyfrol yr oedd yn gyd-olygydd arni, y Cambridge History of Welsh Literature (2019) a’r gyfrol y bu’n ei golygu, Chaucer and Italian Culture (2021).
Cliciwch yma i ymuno â'r ddarlith flynyddol
ID y cyfarfod: 930 3564 0326
Cyfrinair: 441603