Bookselling Research Network
- Lleoliad:
- Zoom - ar-lein
- Amser:
- Dydd Gwener 21 Ionawr 2022, 15:00–17:00
- Cyswllt:
- Dr Eben Muse - e.muse@bangor.ac.uk
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y cynhelir cyfarfod blynyddol cyntaf y Bookselling Research Network ddydd Gwener, 21 Ionawr 2022, rhwng 3.00 a 5.00pm GMT.
Bydd Meryl Halls (Rheolwr Gyfarwyddwr y Booksellers Association of the UK and Ireland) yn dechrau’r cyfarfod trwy siarad am heriau a llwyddiannau gwerthu llyfrau yn y byd sydd ohoni. Dilynir ei chyflwyniad gan drafodaeth ar agenda o weithgareddau rhwydwaith cydweithredol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ni chodir tâl mynediad, a gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Sefydlwyd y BRN yng ngwanwyn 2020 i annog cyfathrebu rhwng llyfrwerthwyr a'r rhai sy'n ymchwilio ac yn ysgrifennu am werthu llyfrau fel y gallent rannu gwybodaeth a chydweithio i gryfhau'r sector gwerthu llyfrau. Rydym yn gobeithio datblygu’r maes gwerthu llyfrau fel y gellir llenwi bylchau gwybodaeth a gall ymchwil pellach ddangos effaith siopau llyfrau a llyfrwerthwyr ar ein diwylliant, ein economi a'n cymdeithas.
Rydym yn disgwyl cyflawni hyn trwy wneud y canlynol:
- Annog ymchwil i hanesion sy'n gysylltiedig â siopau llyfrau, amgylcheddau economaidd, arferion proffesiynol ac effeithiau diwylliannol;
- Sicrhau bod ymchwil am werthu llyfrau ar gael trwy ddigwyddiadau cyhoeddus (cynadleddau, symposia, darlithoedd a gweithdai) a chyhoeddiadau (erthyglau cyfnodolion, erthyglau masnach, llyfrau, adroddiadau);
- Adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygiad strategol gwerthu llyfrau yn ei ffurfiau corfforol ac ar-lein;
- Codi ymwybyddiaeth am werth diwylliannol, economaidd a chymdeithasol siopau llyfrau (yn eu holl ffurfiau) a gwerthu llyfrau ledled y byd.
Er bod ein gweithgareddau cychwynnol wedi cael eu cyfyngu’n ddifrifol gan effaith y pandemig Coronafeirws ar ein bywydau, rydym yn awyddus i adeiladu rhywfaint o fomentwm yn awr a mynd â’r rhwydwaith i’r lefel nesaf. Hyd yn hyn, rydym wedi dechrau cyfres o gyfweliadau sydd ar gael ar wefan y BRN (Bookselling Interview Series Archives), ac rydym yn bwriadu darparu sawl un arall o'r rhain yn ystod y flwyddyn i ddod: cysylltwch os hoffech gyfrannu! Rydym hefyd wedi dechrau adrodd ar gynadleddau perthnasol, a’r cyntaf o’r rhain yw El comercio de librería en América Latina a gynhaliwyd yn Bogota, Columbia ym mis Ebrill, felly cofiwch hefyd gysylltu os ydych yn gwybod am ddigwyddiadau perthnasol eraill y gallwn eu cynnwys (neu, yn wir, os byddech yn fodlon adrodd ar un ohonynt!)
Hoffem eich gwahodd chi i gyd i gyfres 3 rhan ar-lein o symposia yn 2022, Bookshops Matter: The Matter of Bookshops. Bydd y symposia 3 awr hyn yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal ym mis Mawrth, mis Mai a mis Gorffennaf. Bydd pob un ar thema gwerthu llyfrau y cytunwyd arno yng nghyfarfod y BRN ym mis Ionawr. Bydd pob un yn cynnwys siaradwyr gwadd o fyd busnes a/neu'r byd academaidd.
Rydym hefyd yn cynllunio cynhadledd gwerthu llyfrau hybrid 2 ddiwrnod, gyda’r teitl dros dro Bookshops: Selling Books, Supporting Communities, i'w gynnal ar-lein ac yn y Gelli. Anfonir galwad am bapurau a chyfleoedd i gofrestru yn dilyn cyfarfod y BRN ym mis Ionawr. Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni ym mhob un neu rai o'r digwyddiadau hyn!
Eben Muse a Samantha Rayner
Cyfarwyddwyr y Bookselling Research Network