COP 26: green shoots or storm clouds?
- Lleoliad:
- Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor / Zoom Ar-lein
- Amser:
- Dydd Mercher 30 Mawrth 2022, 17:00–18:30
DARLITH GYHOEDDUS AR-LEIN GAN YR ATHRO GARETH WYN JONES CYFLWYNIR AR Y CYD GYDA CHYMDEITHAS Y CENHEDLOEDD UNEDIG, CANGEN MENAI.
Yr Athro Gareth Wyn Jones
Cynhelir y ddarlith yn Saesneg
Mae uwchgynhadledd COP 26 a gynhaliwyd yn Glasgow fis Tachwedd diwethaf wedi mynd yn angof i bob pwrpas, a hynny er gwaethaf y sôn amdani fel gobaith olaf dynolryw i gymryd camau cadarn i ddatrys yr argyfyngau cynyddol sy'n deillio o newid hinsawdd a chynhesu byd-eang o achos dyn.
Prin oedd y llwyddiannau. Hyd yn oed o edrych yn lled optimistaidd ar y sefyllfa, rydym yn wynebu trychineb. Bellach, lleihau cost tanwyddau ffosil a’r wasgfa economaidd yw’r pynciau llosg yn y Deyrnas Unedig. Yn yr Unol Daleithiau, mae Bargen Werdd Biden wedi'i rhwystro. Mae Tsieina ac India yn parhau i dyfu gan losgi glo yn bennaf. Pa siawns sydd o adfer y sefyllfa yn COP 27 yn Scharm el Sheikh neu COP 28 yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig?
Mae gan dechnoleg rôl ond “Dechrau doethineb yw adnabod dy hun”. Mae hyn yn fwyfwy hanfodol wrth geisio datrys cynhesu byd-eang ac argyfyngau mawr eraill sy'n wynebu dynoliaeth. Pam fod ein blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol ni a’n perthynas gydag ynni yn gwneud y cyfan mor anodd?
Ynglŷn â’r awdur: Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor yw R Gareth Wyn Jones B.Sc. (Cymru). M.Sc. (Brit. Columb), D.Phil., D.Sc. (Oxon.) FLSW. Bu’n Athro mewn Biocemeg ac ef sefydlodd y Ganolfan Astudiaethau Parthau Cras, a bu’n rheoli, ac yn ddiweddarach yn cadeirio, Rhaglen Strategol Ymchwil Gwyddorau Planhigion, Adran Materion Rhyngwladol y Deyrnas Unedig. Fe’i penodwyd yn Brif Wyddonydd a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru pan gafodd ei sefydlu ym 1991, ac mae ganddo brofiad rhyngwladol eang fel cadeirydd pwyllgor gwyddonol yr International Centre for Agricultural Research in Dry Areas (ICARDA) yn Aleppo, Syria, fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Comisiwn Datblygu Tir Sych Rhyngwladol a bu, ar y cyd â Dr Einir Young, yn cydlynu projectau rhyngddisgyblaethol, amlwladol yr Undeb Ewropeaidd ym maes cynaliadwyedd tiroedd pori cymunedol yn ne Affrica (MAPOSDA). Gyda Dr Havard Prosser ysgrifennodd adroddiad ar 'Ddefnydd Tir a Newid Hinsawdd' i Lywodraeth Cymru. Yn 2019 cyhoeddodd y llyfr 'Energy the great driver: Seven Revolutions and the challenges of climate change”.
Mae’r ddarlith hon yn cael ei chynnal heb gadw pellter cymdeithasol ac argymhellir i bawb wisgo gorchudd wyneb.
Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Caiff y gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau. Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Changen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig.