Yr agenda sero net a’i heffeithiau lleol, gan gynnwys ymlyniad at le, cymunedau a bywoliaethau
- Lleoliad:
- Zoom
- Amser:
- Dydd Gwener 4 Mawrth 2022, 09:30–17:00
- Cyswllt:
- Yr Athro Thora Tenbrink: t.tenbrink@bangor.ac.uk
Mae Canolfan Ymchwil Llefydd Newid Hinsawdd (PloCC) Prifysgol Bangor yn eich gwahodd i weithdy undydd rhyngddisgyblaethol ar-lein i drafod effeithiau lleol yr agenda sero net ar 4 Mawrth 2022.
Bydd y bore yn gosod y cefndir trwy gyflwyniadau byr gan arbenigwyr gwadd am bolisïau, defnydd tir, busnes a chymuned, a thrafodaeth banel i ddilyn. Arweinir trafodaethau'r prynhawn gan hwylusydd, gyda’r nod o lunio canlyniadau diriaethol. Mae croeso i bawb – yn fyfyrwyr ôl-radd, yn ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac yn uwch academyddion o bob disgyblaeth ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt, yn ogystal â rhanddeiliaid a phobl nad ydynt yn academyddion.
Nod y digwyddiad yw ffurfio rhwydweithiau newydd i nodi amcanion ymchwil penodol a ffurfio cydweithrediadau newydd - boed ar ffurf cynigion project a chyllid, neu bapurau academaidd neu grwpiau ffocws. Dewch yn barod i feddwl, i wrando, i herio, ac i gydweithio!
Cyd-destun: Mae’r agenda sero net yn cynnwys goblygiadau sylweddol i ddefnydd tir (ac felly newidiadau i’r cefn gwlad sy’n ein hamgylchynu), ynni (ac felly newidiadau pellach yn y dirwedd/yr arfordir), ac ynni adeiladu a deunyddiau (ac felly newidiadau i’n trefi a'n dinasoedd). Mae’r agwedd 'lle' ynghlwm wrth bob un, sy'n golygu yr effeithir ar y berthynas rhwng cymunedau lleol a'r lleoedd y maent yn byw ynddynt ac yn eu caru, ac felly'n ennyn teimladau cryf o du’r cyhoedd yn ogystal â gosod heriau sylweddol i'r sectorau dan sylw ac i lunwyr polisïau.
Mae'r pwnc hwn o ddiddordeb i lawer o ddisgyblaethau academaidd, yn cynnwys disgyblaethau gwyddonol sy’n datblygu’r technolegau sy’n gysylltiedig â sero net, y gwyddorau naturiol lle gellir gweld newidiadau ecolegol, hydrolegol, biolegol ac arfordirol. Yn ychwanegol at hyn, mae gwyddorau cymdeithas, y celfyddydau, y dyniaethau, seicoleg ac addysg yn trafod sut mae pobl yn ymateb a sut y gellid eu hannog i newid eu hymddygiad. Mae’r sectorau busnes a chyllid yn ymwneud ag ymarferoldeb a maint y technolegau newydd hyn sy'n cael eu defnyddio neu sy’n cael buddsoddiad, yn ogystal â dylanwad defnyddwyr ar wahanol fentrau trwy eu dewisiadau.
Yn fyr, mae’r her drawsddisgyblaethol yn enfawr, ac mae’n rhaid ceisio ei datrys trwy ddull amlochrog. Bydd y gweithdy’n dechrau gyda detholiad o siaradwyr o wahanol feysydd (polisïau llywodraeth, cymuned, busnes, gwyddoniaeth) a fydd yn cyflwyno eu safbwyntiau perthnasol, gan ysgogi trafodaeth yn y sesiynau gweithdy i ddilyn er mwyn gweithio ar lunio syniadau project ymchwil gwybodus a pherthnasol. Cefnogir y gweithdy hwn gan gynllun ariannu rhyngddisgyblaethol NERC.
Amserlen
Bore: dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) gyda chyfieithu ar y pryd ar gael tan 12:00 | |
9:30-9:40 | Thora Tenbrink: Croeso a chyflwyniad |
9:40-9:50 | Morwenna Spear: Pwyntiau allweddol o adroddiad sero net y CCC ar gyfer y DU |
9:50-10:10 | Christine Wheeler (Llywodraeth Cymru) |
10:10-10:30 | Gerallt Llewelyn Jones (Menter Môn - Morlais) |
Egwyl | |
10:45-11:05 | Grant Peisley (DEG / GwyrddNi) |
11:05-11:25 | Jane Hodgson (Cyngor Sir Dinbych) |
11:25-12.00 | Trafodaeth Panel wedi'i hwyluso |
Egwyl | |
Yn y prynhawn, bydd cyfres o ystafelloedd ymneilltuo yn cael eu defnyddio i ddatblygu ymatebion i’r heriau a’r materion sy’n codi, a chyfleoedd rhyngddisgyblaethol ar gyfer gwaith yn y dyfodol o ran prosiectau ymchwil cydweithredol. | |
13:00 | Trafodaeth yn y cyfarfod llawn |
13:15-14:00 | Sesiwn grŵp 1 |
14:00-14:15 | Adrodd yn ol (Plenary) |
Egwyl | |
14:30-15:15 | Sesiwn grŵp 2 |
15:15-15:30 | Adrodd yn ol (Plenary) |
Egwyl | |
15:45-16:30 | Sesiwn grŵp 3 |
16:30-17:00 | Adrodd yn ol a chloi (Plenary) |
17:00 | Gorffen |
Bore (9:30-12:00)
Ymunwch â'r cyfarfod Zoom
https://us02web.zoom.us/j/85038098246?pwd=T3AwdHJqRnlRb1NGRFVvQ2xDOURXdz09&from=addon
ID y Cyfarfod: 850 3809 8246
Cyfrinair: 563685
Prynhawn (12.00-17:00)
Ymunwch â'r cyfarfod Zoom
https://us02web.zoom.us/j/89140255885?pwd=U3FvWXVucENXRExlOG1GZThSSXhZUT09
ID y Cyfarfod: 891 4025 5885
Cyfrinair: 443677