Wedi Canslo: Taith Hanes Hudolus
Canslo Digwyddiad: Mae'n ddrwg gennym ddweud bod y daith yma wedi'i ohirio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a siom y gallai hyn ei achosi ond mae'r Brifysgol wedi penderfynu gohirio nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau. Rydym yn monitro'r sefyllfa mewn perthynas â'r pandemig Coronafirws (Covid-19) yn ofalus, a'n blaenoriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn yw lles myfyrwyr, staff, ymwelwyr a'r gymuned leol.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y cyfle ichi fynd ar daith hanes hudolus o amgylch Ynys Môn. Bydd staff Hanes ac Archaeoleg yn mynd â chi i amrywiaeth o safleoedd, gan olrhain datblygiad yr Ynys arbennig hon. O’r tomenni claddu cyn-hanesyddol i bontydd byd-enwog Thomas Telford a Robert Stephenson, mae gan Ynys Môn stori unigryw i’w hadrodd.
Pryd: 10am-5pm, 21 Mawrth 2020
Gadael/dychwelyd: Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG
Ffi: Mae’r daith am ddim. Croeso i bawb
Mwy o wybodaeth
E-bost: k.pollock@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 382009
Oes gennych chi ddiddordeb? Yna gadewch yr 21ain ganrif am ddiwrnod ac ymunwch â ni i ddarganfod dirgelion gorffennol hynafol a hanesyddol Ynys Môn.