Writing Welsh History, 1850–1950: Contexts and Comparisons
20–22 Gorffennaf 2011
Prifysgol Bangor
Cynhadledd i nodi canmlwyddiant History of Wales (1911) J. E. Lloyd
Siaradwyr yn cynnwys:
Robert Evans – Ian Wood – Gwyneth Tyson Roberts – Huw Pryce – Paul O'Leary – Prys Morgan – Marion Löffler – Peter Lambert – Bill Jones – Lowri Hughes – Ralph Griffiths – Adam Kosto – Neil Evans – John Ellis – Nancy Edwards – Thomas Charles-Edwards – Dauvit Broun – Ciaran Brady – Stefan Berger
Pynciau'n cynnwys:
- Hanesyddiaeth Genedlaethol, 1850–1950
- Creu Disgyblaethau Academaidd
- Rhagflaenwyr Lloyd
- Y Tu Hwnt i Hanes Cenedlaethol
- Cymariaethau Celtaidd
- Safbwyntiau Ewropeaidd
- Poblogeiddio'r Gorffennol
- Cyfeiriadau Newydd
Derbynnir yn gyffredinol bod J. E. Lloyd (1861–1947) wedi sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd, diolch yn arbennig i’w waith A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest, gwaith a ysgrifennwyd ym Mangor, lle y treuliodd bron y cyfan o’i yrfa. Er mwyn nodi canmlwyddiant cyhoeddi’r History bydd y gynhadledd hon yn ystyried y modd yr ysgrifennwyd hanes Cymru yn ystod oes Lloyd ac yn gosod hyn yng nghyd-destun datblygiadau yng Nghymru yn ogystal â hanesyddiaeth rhannau eraill o Ewrop. Mae’r gynhadledd yn gyfle i haneswyr sy’n ymddiddori yn hanesyddiaeth fodern yr Oesoedd Canol – prif ganolbwynt gwaith Lloyd – yn ogystal ag arbenigwyr mewn hanes a diwylliant modern ddod at ei gilydd, ac yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y buwyd yn dychmygu a dehongli gorffennol Cymru, o oes Fictoria hyd at y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd.