Newyddion: Ionawr 2019
Gwrthryfel Glyndŵr ar Radio 4
Bydd yr Athro Huw Pryce ymysg gwesteion rhaglen In Our Time , Radio 4 (31 Ionawr 2019 am 21:00), yn trafod hynt a helynt Owain Glyndŵr, y gŵr a fu’n ddylanwadol yn cynnau gwrthryfel yn erbyn Lloegr (1400-1412), a oresgynnodd amryw rannau o Gymru o a gafodd ei drechu gan Harri V. Cofiwch wrando!
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2019
Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor
Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr. Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol. Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019