50 mlynedd yn ddiweddarach: croesawu rhai o'r graddedigion cyntaf yn ôl i Fangor
Wrth iddi ddathlu ei hanner canmlwyddiant, cafodd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yr anrhydedd o groesawu tri o'i myfyrwyr cyntaf yn ôl i'r ysgol yn ddiweddar.
Ymunodd Eryl Davies, Les Jones a David Simmonds â'r ysgol - yr Adran Theori Gymdeithasol a Sefydliadau ar y pryd - ym 1966, blwyddyn ei sefydlu. Roeddent ymysg y garfan gyntaf un i raddio ym Mangor gyda gradd yn y Gwyddorau Cymdeithas.
Yma, maent yn edrych yn ôl ar eu hamser ym Mangor, ac yn sôn am sut mae'r profiad hwnnw yn parhau i ddylanwadu ar eu bywydau ...
Eryl Davies
"Mae gen i atgofion melys o'm tair blynedd ym Mangor ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i fod yn fyfyriwr israddedig yno.
Rwy'n dal i gofio fy nghyfweliad gyda'r Athro Morris Jones pan wnes i gais am le ar y cwrs newydd. Roeddwn wedi gweithio am flwyddyn mewn clinig cynghori plant preswyl ym Mae Colwyn (roedd fy rhieni yn nyrsys seiciatrig ac roeddwn eisoes wedi penderfynu ar waith cymdeithasol fel gyrfa). Gofynnwyd i mi pam oeddwn yn awyddus i fynd ar y cwrs a bron heb feddwl, dywedais "gan fy mod gen i awch i ddysgu". Roedd yn swnio braidd yn ystrydebol ond sylweddolais ei fod yn wir. Nid oeddwn yno i wneud "hyfforddiant gwaith cymdeithasol" - roeddwn eisiau mwy, ehangu fy ngorwelion a dysgu pethau newydd.
Ar y cwrs, buom yn trafod athroniaeth a syniadau cymdeithasol a gwleidyddol a dysgasom am y meddylwyr cymdeithasol mawr, buom yn siarad am enghreifftiau o gyfyng-gyngor moesegol sy'n gymaint o ran o fywyd bob dydd ac yn sydyn, aeth fy myd yn lle llawer cyfoethocach ac ehangach. Diolch i John Borland a'i barodrwydd i helpu'r rhai ohonom oedd yn cael trafferth gyda mathemateg, bu i mi lwyddo'r dosbarth ystadegau (ac erbyn hyn, mae gennyf ferch sydd â gradd Meistr mewn Ymchwil Polisi Cymdeithasol!). Bu i Cyril Parry feithrin fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth a chefais astudio gyda phobl o lawer o wahanol gefndiroedd. Trawsnewidiodd y brifysgol - a'r adran hon yn arbennig - fy mywyd. Gwnes ffrindiau gwych yn yr adran hon ac mewn adrannau eraill, ac rydym yn parhau i fod yn agos, er gwaethaf y ffaith ein bod yn byw yn bell oddi wrth ein gilydd.
Es ymlaen i astudio gwaith cymdeithasol yn Nottingham, Bryste a Gwlad yr Haf (enillais fy nghymwysterau proffesiynol ym Mhrifysgol Bryste) ac ers hynny, rwyf wedi symud i fyw i Galiffornia gyda fy ngŵr a'm teulu - ond ni wnaf fyth anghofio fy nghyfnod ym Mangor. Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio ym maes gweinyddu'r celfyddydau ac mae gen i awch i ddysgu o hyd!"
Les Jones
Cofrestrais ar y cwrs Theori Gymdeithasol a Sefydliadau ar hap. Roeddwn wedi bwriadu astudio Mathemateg, ond edrychodd fy nhiwtor personol ar fy nghanlyniadau Lefel A ac awgrymodd y byddwn yn cael trafferth gyda Mathemateg. "Mae yna gwrs newydd yn dechrau..." meddai, a thair blynedd yn ddiweddarach roedd gennyf radd mewn Economeg a Theori Gymdeithasol. Roeddent yn dair blynedd dda iawn ac amrywiol iawn, yn wir. Roedd fy nghyrsiau yn y flwyddyn gyntaf, ynghyd â Theori Gymdeithasol ac Economeg, yn cynnwys Llenyddiaeth Saesneg, ac yn yr ail flwyddyn ychwanegais Athroniaeth a Rhesymeg.
Mewn Theori Gymdeithasol, rwy'n cofio'n arbennig gwrs cymdeithaseg Trefor Owen a chyrsiau ystadegau a throseddeg John Borland, a'm harweiniodd, gyda'i gilydd, at fy swydd gyntaf ar ôl y brifysgol fel swyddog ymchwil yn un o adrannau'r llywodraeth. Bu cwrs gwleidyddiaeth Cyril Parry hefyd yn ddylanwad arnaf. Fy nhad (aelod o undeb lafur ar hyd ei oes a swyddog undeb mewn ffatri am ran helaeth ei fywyd gwaith) oedd fy mhrif ddylanwad gwleidyddol - rhoddodd Cyril Parry yr athroniaeth a'r theori yn eu lle, ond roedd ganddo agwedd bragmatig iawn at systemau gwleidyddol (a ydynt yn gweithio?) sydd wedi aros gyda mi byth ers hynny.
Wrth gwrs, roedd ochr gymdeithasol bywyd prifysgol hefyd yn bwysig, bod oddi cartref am y tro cyntaf ac ymysg cymaint o bobl ifanc eraill yn yr un sefyllfa. Fel gwnaeth y penwythnos gydag un ar ddeg o raddedigion eraill Bangor o'r un flwyddyn dystio, mae cyfeillgarwch y cyfnod hwnnw wedi parhau hyd heddiw. Ac, yn bwysicaf oll, cyfarfûm â'm gwraig Rosie ym Mangor.
Ar ôl pedair blynedd yn Llundain yn Arolwg Cymdeithasol y Llywodraeth, fel y'i gelwid ar y pryd, dychwelais i Gymru i weithio ar broject datblygu cymunedol a gyllidwyd gan y Swyddfa Gartref yng Nghwm Afan, i'r gogledd o Faesteg, lle rwy'n byw o hyd. Treuliais gyfnodau wedyn yn adran gynllunio trefol yr awdurdod lleol (fel eu "cymdeithasegydd dof" - diolch, Trefor Owen), ac yna ddeunaw mlynedd mewn rhaglenni atal troseddau cymunedol a noddwyd gan y Swyddfa Gartref (diolch, John Borland) a deuddeg mlynedd yng ngwasanaethau plant a phobl ifanc tan i mi ymddeol, ac wedi hynny bûm yn gynghorydd lleol am gyfnod (diolch, Cyril Parry). Rwy'n dal i ymwneud â llywodraeth leol, ond yn y sector gwirfoddol, fel ymddiriedolwr gyda dwy elusen leol. Rhoddodd yr un flwyddyn honno o athroniaeth ddiddordeb gydol oes i mi yn y pwnc, ac mae'n parhau i fod yn ddefnyddiol iawn i mi yn y cwrs diwinyddiaeth rwyf wedi cofrestru arno ar hyn o bryd.
At ei gilydd, mae Bangor a Theori Gymdeithasol yn parhau i fod yn elfennau pwysig yn fy mywyd."
David Simmonds
"Cefais fy lle ym Mangor ar ôl bod ar y rhestr aros ac o ganlyniad i ddryswch ar ran Cyngor Canolog y Prifysgolion ar Dderbyniadau (UCCA), y corff oedd yn gweinyddu'r drefn dderbyn ar y pryd, a anghofiodd ddweud wrthyf fy mod wedi cael cynnig lle, cyrhaeddais y brifysgol ar ddiwedd Wythnos y Glas i wneud gradd gyd-anrhydedd Saesneg a Hanes heb unrhyw syniad bod rhaid i mi astudio trydydd pwnc yn fy mlwyddyn gyntaf.
Dewisais Theori Gymdeithasol a Sefydliadau yn bennaf oherwydd fy mod newydd ddechrau canlyn merch o Lundain a oedd eisiau gwneud gradd mewn cymdeithaseg, y pwnc mwyaf ffasiynol yn y 1960au, ond nid wyf erioed wedi difaru gwneud fy ngradd yn y pwnc.
Beth gefais o'r radd? Wel, cyrhaeddais Fangor yn ddyn ifanc anwleidyddol braidd heb lawer o chwilfrydedd, yn hapus i gael fy mwydo â ffeithiau am destunau Saesneg a ffeithiau hanesyddol a'u hail-chwydu wedyn. Rwy'n credu bod Theori Gymdeithasol wedi gwneud i mi ymddiddori llawer mwy yn y cwestiwn sy'n gofyn pam bod ein cymdeithasau fel ag y maent, a gofyn a ellid eu gwella.
Rhoddodd ddealltwriaeth i mi o bwysigrwydd ymchwil, darllen yn eang, o ddod i gasgliad y gallwn ei amddiffyn; fe'm dysgodd sut i gyfathrebu'n glir ac yn gryno, ac agorodd feysydd cyfan newydd o ddiddordeb i mi - troseddeg, er enghraifft. Nid ystadegau o bosib.
Yn sicr fe wnaeth Bangor fy newid: Rwy'n credu bod fy nhueddiad newydd i ddadlau am bron popeth gyda fy rhieni wedi eu dychryn braidd. Dywedodd fy mam yn drist unwaith "Roeddet yn arfer bod yn fachgen annwyl cyn i ti fynd i Fangor".
Es yn newyddiadurwr, a gweithiais am fwyafrif fy ngyrfa ym myd materion cyfoes a newyddion teledu BBC Cymru, amser a fwynheais yn fawr iawn ac mae gennyf le i ddiolch yn fawr iawn i Brifysgol Bangor a'r adran am hynny.
Cefais lawer o hwyl hefyd a gwnes lawer o ffrindiau, ac rwy'n dal i weld llawer ohonynt.
Felly diolch, Bangor, a dymuniadau gorau am lawer mwy o flynyddoedd llwyddiannus."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2016