Academyddion y Coleg yn derbyn grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC
Mae'n bleser mawr gan y Cyfarwyddwr Ymchwil gyhoeddi llwyddiant nifer o gydweithwyr ar draws y Coleg Busnes, Y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas sydd wedi ennill grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
"Mae hyn yn hynod galonogol ac yn tystio i ansawdd y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud yn y Coleg," meddai'r Athro Kostas Nikolopoulos. "Rwy'n siŵr yr hoffai cydweithwyr ymuno â mi i longyfarch ein hacademyddion ar eu llwyddiant. Byddwn yn edrych ymlaen at gynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel a sylweddol ei ddylanwad dros y misoedd i ddod."
Grantiau
CRONFEYDD BYCHAIN (GRANT GYDWEITHIO A PHARTNERIAETH)
- Alex Plows a Tony Dobbins - Uwchgynhadledd y Farchnad Lafur yng Nghymru: trafod dulliau o baru sgiliau â swyddi
- Koen Bartels - Elfennau Arloesol mewn Llywodraeth Leol: Cymharu dulliau newydd o weithio mewn cymunedau yn y Deyrnas Unedig a'r Iseldiroedd a chyda hwy
- Yvonne McDermott-Rees - CAMHS yng Nghymru: Dull gweithredu wedi'i seilio ar hawliau dynol
- Efiona Thomas Lane (Hefin Gwilym CoI) - Mapio Profiadau Tlodi Bwyd
GRANT PROJECT EFFAITH BANGOR
- Maggie Hoerger - Gweithredu'r model British Early Special Schools Teaching (BESST) mewn ysgolion anghenion arbennig a gynhelir
GRANT PROJECT EFFAITH ESRC
- Alex Plows a Tony Dobbins - Uwchgynhadledd y Farchnad Lafur yng Nghymru II
CYMRODORIAETH KE
- Clair Doloriert a Martina Feilzer - Cefnogi arloesi a dysgu yn Heddlu Gogledd Cymru
- Rhian Hodges a Cynog Prys - 'Iaith Fyw: Iaith Byw'
GRANTIAU CYDWEITHIO A PHARTNERIAETH GCRF
- Yvonne McDermott-Rees a Tanya Herring - Plant wedi'u dadleoli ar draws ffiniau
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016