Aelod Seneddol yn canmol Prifysgol Bangor am ei gwaith arloesol ar Fanciau Bwyd
Mae’r AS lleol Hywel Williams wedi canmol Prifysgol Bangor am ei gwaith ymchwil arloesol yn dilyn Cynhadledd Undydd i Fudd-ddeiliaid Lleol: Mapio Tlodi Bwyd, a oedd yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth a barn am y twf sydd y dyddiau hyn yn y defnydd o Fanciau Bwyd.
Mae project ymchwil gan David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, wedi canfod bod yna 157 banc bwyd yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cefnogi pobol mewn peryg o beidio â gallu bwydo’u hunain a’u teuluoedd (data a gasglwyd Gorffennaf 2015), o gymharu ag 16 yn 1998.
Wrth siarad yn y Gynhadledd, roedd Hywel Williams AS yn annog ei etholwyr i barhau gyda’u cefnogaeth i waith banciau bwyd gan ddweud:
“Mae cynnydd enfawr yn y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru, fel y mae ymchwil David Beck o Brifysgol Bangor yn ei ddangos mor glir.”
“Mae hi’n hanfodol fod gennym ni fanciau bwyd ac rwy’n llongyfarch ac yn canmol y bobl dda hynny sydd yn gweithio mor galed i’w cynnal. Ond rydym hefyd angen deall y rhesymau y tu cefn i’w twf.”
“Mae tua chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi. Felly mae incymau isel ac yn enwedig gwasgfa’r llywodraeth ar fudd-daliadau yn achosi hyn yn uniongyrchol. Hefyd, mae cyflenwi a masnachu bwyd wedi newid llawer dros y degawdau diweddar, gan ei gwneud yn fwy anodd ac yn ddrutach i ddarparu bwyd i deuluoedd a hwnnw’n ffres, yn faethlon ac yn fforddiadwy.”
“Rwy’n llongyfarch David Beck ac Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor ar eu gwaith; maent wedi gwneud cymwynas fawr â phobl Cymru wrth cynhyrchu’r gwaith ymchwil hanfodol yma.”
Meddai Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ym Mangor:
“Mae’r cynnydd yn nifer banciau bwyd wedi ei sbarduno gan fesurau diwygio lles a pholisïau llymder, yn arbennig ers cyflwyno Deddf Diwygio Lles 2012.”
Yn ôl Dr Hefin Gwilym:
“Mae Banciau Bwyd yn ennill eu plwyf ac yn wahanol i’r cysyniad cyfarwydd o’r wladwriaeth les wrth i ddarpariaethau lles gael eu preifateiddio neu gael eu rhoi yng ngofal teuluoedd a chymunedau ar sail wirfoddol.”
Ychwanegodd: “Roedd y gynhadledd leol ar Fapio Banciau Bwyd yn llwyddiant mawr gyda nifer o sefydliadau lleol yn cymryd rhan. Y cam nesaf yw ysgrifennu adroddiad manwl ar fynd i’r afael â thlodi bwyd a’i anfon at lywodraethau Cymru a’r DU.”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016