Ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru 2016
Dylan Williams, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn oedd un o'r siaradwyr yn ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru - digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a gynhaliwyd yn rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Cyflwynodd Mr Williams broffil y prif brosiectau trawsnewidiol sydd ar y gorwel yng ngogledd Cymru ac yn Ynys Môn, a chynnig ei sylwadau ynglŷn â sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r fath ddatblygiadau’n eu cynnig i'r gadwyn gyflenwi.
Roedd yr uwchgynhadledd yn llwyfan i drafod ac i lywio ymyriadau polisi mewn ymateb i golli swyddi ar raddfa fawr ar draws y diwydiannau traddodiadol ac yn yr un modd sut y gall llunwyr polisi ymateb mewn modd cynaliadwy i fuddsoddiadau mawr a chyfleoedd gwaith - megis y prosiectau hynny sydd wrthi'n cael eu datblygu ar draws Môn ac arfordir gogledd Cymru.
Y thema eleni oedd "Cymharu ymyriadau polisi er mwyn herio busnes fel arfer" a bu'r siaradwyr yn canolbwyntio ar dri phrif faes, sef arloesi yn y gweithle, cadwynau cyflenwi'r farchnad lafur ac ansawdd swyddi.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad roedd Tuomo Alasoini o'r Ffindir, a fu'n sôn am lwyddiannau a heriau parhaus wrth hyrwyddo arloesedd yn y gweithle yn y cyd-destun Nordig dros y ddau ddegawd diwethaf. Bu'r Athro Patricia Findlay o Brifysgol Ystrad Clud yn trafod y Confensiwn Gwaith Teg a'r ymdrechion yn yr Alban i gefnogi arloesedd yn y gweithle, tra bu'r Athro Karel Williams (Ysgol Fusnes Manceinion) ac Ian Rees Jones (Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru, Prifysgol Caerdydd) yn rhannu eu hymchwil ynglŷn â gofal oedolion ledled y Deyrnas Unedig. Mae eu hymchwil yn nodi problemau cronig o ran fformat, darpariaeth a chyflawniad gofal preswyl a gofal yn y cartref a dadleuant fod angen arbrofi ac arloesedd cymdeithasol radical.
Roedd yr Athro Frank Peck, Cyfarwyddwr y Centre for Regional Economic Development ym Mhrifysgol Cymbria, yn canolbwyntio ar swyddogaeth busnesau bach a chanolig eu maint fel rhan o'r gadwyn gyflenwi yn safle diwydiannol Sellafield yng ngorllewin Cymbria, ac yn enwedig, ar sut y mae newidiadau mewn prosesau caffael yn creu heriau newydd i fusnesau lleol a pham bod y materion hyn yn berthnasol i lunwyr polisi mewn economïau eraill sy'n ddibynnol ar y diwydiant niwclear. Roedd yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd yn archwilio cyflwr ansawdd swyddi ym Mhrydain ac yn benodol yng Nghymru; gan dynnu sylw at bwysigrwydd ystyried meini prawf megis hyfforddiant, bod yn rhy gymwys a bod diffyg defnydd o sgiliau, dwyster gwaith, a gorbryder yn y gwaith yn hytrach na chanolbwyntio ar a yw pobl mewn gwaith neu beidio, ac os ydynt, faint o gyflog y maen nhw'n ei gael. Ac yn olaf, daeth Dr Alexandra Plows (Prifysgol Bangor) â'r sylw yn ôl i Ynys Môn a gogledd Cymru, gan drafod sut y mae straen a dychryn economaidd wedi effeithio ar y rhanbarthau rhwng 2009 a 2016.
Ariannwyd y digwyddiad gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Bangor. I gloi'r digwyddiad cafwyd trafodaeth banel fywiog a chyfle i gyfnewid syniadau ynglŷn â'r cwestiwn "Beth ellir neu beth ddylid ei wneud i symud y tu hwnt i 'busnes fel arfer' o ran llunio polisi marchnad lafur?" Yn ystod y drafodaeth cafodd materion eu crybwyll megis gwella ansawdd swyddi, datblygu marchnadoedd llafur cynaliadwy, dod o hyd i gyfleoedd yn yr economi ôl-Brexit, y posibilrwydd o fod â 'Mittelstand' yng Nghymru, a cheisio deall yn well pam nad yw busnesau teuluol weithiau yn dewis tyfu.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2016