Alex, myfyriwr israddedig, yn cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i gyflogadwyedd
Llongyfarchiadau i Alex Wuergler, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, sydd wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor i gydnabod ei hymrwymiad i wella ei chyflogadwyedd.
Curodd Alex, myfyrwraig BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol sy'n dod o'r Swistir, fyfyrwyr eraill a enwebwyd gan Goleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithasol i ennill y wobr mewn seremoni yn Pontio ddydd Mercher, 29 Mawrth.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn falch iawn o lwyddiant Alex ac yn ddiolchgar am ei chyfraniad gwerthfawr at weithgareddau'r ysgol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, cyfraniad sy'n cynnwys cefnogi dyddiau agored a dyddiau ymweld ymgeiswyr a chynrychioli myfyrwyr mewn cyfarfodydd adrannol.
Y peth nesaf yng nghynlluniau Alex yw blwyddyn o brofiad rhyngwladol yn Awstralia.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2017