Apwyntio Dr Rebecca Thomas yn Gymrawd Ôl-Ddoethurol yr Academi Brydeinig
Mae Dr Rebecca Thomas wedi ymuno â’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas o fis Medi 2019 ymlaen fel Cymrawd Ôl-Ddoethurol yr Academi Brydeinig i weithio ar brosiect tair blynedd yn dwyn yr enw ‘Writing the Medieval Welsh World’. Enillodd Dr Thomas ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n un o 53 o ymchwilwyr gyrfa gynnar a wnaethpwyd yn Gymrodorion Ôl-Ddoethurol gan yr Academi Brydeinig eleni, a’r unig un i dderbyn y gymrodoriaeth yng Nghymru.
Bydd prosiect Dr Thomas yn ymchwilio i gysylltiadau gwleidyddol rhwng Cymru a’r byd ehangach yn yr Oesoedd Canol. Roedd dimensiwn rhyngwladol hollbwysig i wleidyddiaeth Gymreig yn y cyfnod hwn: amrywiai cysylltiadau gyda’r Saeson rhwng cydweithrediad a gwrthdaro, roedd y Llychlynwyr yn aml yn cyfrannu at ryfela dynastig Cymreig fel hurfilwyr, a sefydlwyd cysylltiadau llysgenhadol gyda Ffrainc a Rhufain. Bydd y prosiect yn darparu ystyriaeth lawn a chydlynol o’r rhwydweithiau hyn ac yn ymchwilio i’r ffordd y cânt eu portreadu a’u defnyddio gan ysgrifenwyr canoloesol Cymreig. Bydd ymchwilio i’r ffordd y mae’r ysgrifenwyr hyn yn cyflwyno’r berthynas rhwng eu harweinwyr a’r byd ehangach yn datgelu sut y cawsai cyfreithlondeb gwleidyddol ei lunio yng Nghymru’r Oesoedd Canol. A oedd yn fuddiol i arweinwyr bwysleisio eu cysylltiadau rhyngwladol gyda’r Gwyddelod a’r Llychlynwyr? Neu a oedd hi’n bwysicach i feithrin delwedd wedi ei seilio ar hunaniaeth genedlaethol neu ranbarthol? Mae hyn yn arwain at y cwestiwn ehangach o sut y lluniwyd syniadau o hunaniaeth Gymreig yn yr Oesoedd Canol. Mae’r prosiect yma yn anelu i ddwyn persbectif newydd ar hanes Cymru’r Oesoedd Canol, ac i gyfrannu i ddadleuon ehangach ynghylch hunaniaethau a chysylltiadau rhwng pobloedd ar draws yr Oesoedd Canol, gyda goblygiadau i arbenigwyr mewn ardaloedd a chyfnodau eraill trwy hanes.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019