Ar frig y dosbarth: Myfyriwr hŷn, Bryn, yn canfod doniau cudd
Mae myfyriwr hŷn o Ynys Môn, a adawodd yr ysgol gyda 'llond llaw o ganlyniadau TGAU gwael', wedi gorffen ar frig ei ddosbarth ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Bryn Moore, sy'n 43 oed ac a adawodd yr ysgol yn 16, yn graddio'r wythnos hon gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a'r marciau gorau yn ei flwyddyn yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Ym Medi, bydd yn dechrau ar gwrs Meistr drwy Ymchwil yn y brifysgol, ac ar ôl hyn mae'n gobeithio symud ymlaen i PhD – newid rhyfeddol i rywun, yn ei arddegau, a benderfynodd nad oedd y byd academaidd iddo fo.
“Rydw i'n hollol bendant y buaswn i wedi cael trafferth cwblhau gradd pan oeddwn i'n iau”, meddai Bryn, o Langaffo. “Mae bod yn fyfyriwr hŷn yn golygu bod gennych brofiadau bywyd tu cefn i chi, ac rydw i'n meddwl fod hyn yn fantais fawr, yn arbennig yn y gwyddorau cymdeithas.”
Mae rhai o'r profiadau bywyd hynny'n cynnwys gweithio gyda chyn-droseddwyr i wella'u sgiliau llythrennedd a rhifedd, a'u cefnogi i ddod o hyd i waith, a rhedeg ei fusnes ei hun mewn darpariaeth rheoli tymer.
Ond cyfnod o deithio ar draws Ewrop yn 2011 a sbardunodd ei frwdfrydedd newydd dros addysg. “Tra'r oeddwn i'n teithio mi dreuliais i lawer iawn o amser yn darllen amrywiaeth o lyfrau, a gododd awydd arna'i i ddysgu”, meddai'r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llangefni. Doeddwn i ddim yn siŵr beth yn union y byddwn i'n ei wneud ar ôl i mi gyrraedd adref, ond roeddwn i'n gwybod y buaswn i'n mwynhau rhyw fath o her - rhyw fath o gwrs academaidd. Ffrind awgrymodd i mi fynd i'r brifysgol, ac roedd yn ddewis perffaith.
“Rydw i'n cofio darllen prosbectws yr ysgol cyn dechrau'r radd, ac roedd yn dweud rhywbeth fel ‘efallai na fyddwch chi'n gweld y byd yn yr un ffordd ar ôl gorffen eich astudiaethau’”, ychwanega. “Ac yn wir dyma'r achos hefyd, ac rydw i wedi mwynhau gweld sut mae cymdeithasau'n gweithio gyda phâr ‘ffres’ o lygaid.”
I Bryn, y bydd ei radd Meistr yn edrych ar filitareiddio cymdeithas, mae'r profiad yn y brifysgol wedi newid ei fywyd”.
“Roeddwn i wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa amrywiol a roddodd foddhad gan fwyaf, cyn mynd i'r brifysgol, ond roeddwn i'n cael fy atal rhag gwneud cais am lu o swyddi yr oeddwn i'n gwybod y buaswn i'n gallu eu gwneud yn dda, yn syml oherwydd nad oeddwn i'n cyflawni meini prawf academaidd penodol. Mae astudio ym Mangor wedi gwella fy rhagolygon drwy gael gwared ar rwystrau oherwydd diffyg cymwysterau.
“Mae graddio gyda dosbarth cyntaf a chael fy enwi'r myfyriwr gorau wedi bod yn uchafbwynt go iawn – yn ogystal â chanfod doniau cudd!”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015