Arbenigwyr yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor i drafod dyfodol cynllunio ieithyddol
Bydd arbenigwyr yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, 8 Mawrth i gymryd rhan mewn symposiwm undydd i drafod dyfodol cynllunio ieithyddol.
Mae 'Tu Hwnt i'r Dosbarth: Dyfodol Cynllunio Ieithyddol' yn dod yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011, sy'n dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ystod y degawd diwethaf.
Mae'r Athro Stephen May, Prifysgol Auckland, Seland Newydd ymysg yr amrywiol arbenigwyr fydd yn rhoi cyflwyniad yn y digwyddiad amserol hwn, a fydd yn dod ag ymarferwyr ym maes polisi iaith a chynllunio ieithyddol a meysydd cysylltiedig ledled y byd ynghyd.
Bydd yr Athro May, sy'n ddirprwy deon ymchwil yng nghyfadran addysg Prifysgol Auckland yn ymuno â Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg; yr Athro Rob Dunbar o Brifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, yr Alban; a Meirion Prys Jones o'r Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol i roi cyflwyniadau yn y symposiwm a drefnir gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas eisoes wedi sefydlu ei hun fel cyfrannwr pwysig at y maes trwy ei chwrs Meistr arloesol ym maes polisi a chynllunio ieithyddol, sydd wedi ei lunio i hyfforddi myfyrwyr i roi systemau cynllunio ieithyddol llwyddiannus ar waith yn y gwaith, y gymuned a'r teulu. Mae staff yr Ysgol hefyd yn cyfrannu at ymchwil a meithrin rhwydweithiau gyda phrifysgolion a sefydliadau ieithoedd lleiafrifol yng Ngwlad y Basg yng ngogledd Sbaen.
"Mae'n bleser cael croesawu rhai o ysgolheigion ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw Cynllunio Ieithyddol i Brifysgol Bangor o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol", meddai Dr Rhian Hodges, Cyfarwyddwr yr MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol, Prifysgol Bangor a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. "Thema'r symposiwm yw defnydd iaith y tu hwnt i'r system addysg - pwnc amserol iawn yn sgil canlyniadau siomedig cyfrifiad 2011. Cyfle euraidd yw hwn i bwyso a mesur gwerth strategaethau Cynllunio Iaith presennol Cymru gan drafod datblygiadau hollbwysig y dyfodol yn ogystal."
Cynhelir y symposiwm yn Neuadd Reichel y brifysgol ar Ffordd Ffriddoedd, Bangor, rhwng 9.30am and 4.00pm ddydd Gwener, 8 Mawrth 2013. Anfonwch e-bost at meinir.llwyd@bangor.ac.uk erbyn dydd Gwener, 1 Mawrth i gofrestru. Mae'r digwyddiad hwn am ddim a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2013