Archeolegwyr yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Bangor
Ymunwch â ni yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd yn ystod Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor
Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ac Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd brofi ymchwil archaeolegol ymarferol yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd – a gynhelir ar 15 Mawrth 2014 yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg – sy’n rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Bangor.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i fynd ‘Ar Drywydd Olion y Gorffennol’ trwy archwilio tirlun gorffennol Gwynedd gyda thechnegau gwyddonol a ddefnyddir gan archaeolegwyr. Nid gwaith cloddio yn unig yw archaeoleg, ac weithiau y pethau bach sy’n datgelu’r pethau mawr.
Bydd yna gyfle i adnabod gronynnau pail hynafol: gall gronynnau paill microsgopig oroesi am filoedd o flynyddoedd gan roi cofnod unigryw i ni o’r coed a’r planhigion hynafol, gan roi cymorth i ateb cwestiynau megis ‘Ym mha oes y gorchuddiwyd Gwynedd gyfan gan goed’? ‘Pa bryd ddechreuodd bobl ffermio’?
Nid oes angen offer drudfawr arnoch bob tro i gymryd rhan mewn archaeoleg, a bydd cyfranogwyr yn medru creu modelau 3D o henebion archaeolegol gan ddefnyddio’u ffotograffau eu hunain. Gellir gweld y modelau ar y rhyngrwyd neu eu hargraffu fel modelau plastig go iawn.
Yn ychwanegol, bydd cyfle i ddysgu sut mae archaeolegwyr yn cofnodi tirluniau a safleoedd, a rhoddir cynnig i bobl dirfesur (os yw’r tywydd yn caniatáu).
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r Arddangosfa Bydoedd Cudd, ac fe’i cynhelir ar y 15fed Mawrth 10am-4pm yn Adeilad Brambell (gweler rhif 38 ar y map), Ffordd Deiniol, Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014