Archwilio’r berthnas dymhestlog yr oedd Margaret Thatcher yn ei rhannu â Chymru
Ar raglen newydd ar Radio Wales, bu'r hanesydd o Fangor, Dr Andrew Edwards (Deon Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau) yn archwilio’r berthnas dymhestlog yr oedd Margaret Thatcher yn ei rhannu â Chymru.
Mae diddordeb mewn dylanwad Thatcheriaeth ar Gymru wedi cyflymu ers marwolaeth ‘Y ddynes haearn’ yn Ebrill 2013, a chreda Dr Edwards mai nawr yw’r amser i werthuso’r etifeddiaeth Thatcheraidd yng Nghymru:
“Roedd Margaret Thatcher yn enghraifft glasurol o’r gwleidydd ‘marmite’. Er nad oedd fawr ddim hoffter ohoni ym mröydd diwydiannol Cymru – gyda Streic y Glöwyr 1984/85 yn cael ei weld fel ergyd drom i gymunedau’r Cymoedd yn enwedig – mae’n bryd adolygu nifer o agweddau o’i phrif-weinidogaeth.
“Yn groes i’r gred boblogaidd, nid oedd Cymru’n ardal gwbl hesb i Geidwadwyr yn ystod y 1980au: mewn gwirionedd, yn Etholiad Cyffredinol 1983 cynyddodd y blaid ei nifer o Aelodau Seneddol i 14, ffigwr digynsail iddynt yn y Gymru fodern. Felly, yn ogystal â thrafod teimladau gwrth-Thatcheraidd ffyrnig, bydd fy rhaglen hefyd yn ystyried pam fod ei pholisïau mor boblogaidd ymysg rhai o etholwyr Cymru.”
Yn eironig, efallai mai etifeddiaeth bennaf Margaret Thatcher yng Nghymru oedd y bleidlais ‘ia’ yn refferendwm datganoli 1997 – rhywbeth mae’r Dr Edwards yn ei brocio yn yr ymchwil ar gyfer ei gyfrol Thatcher’s Wales. Fel y dywed Dr Edwards:
“Tra nad oes dwywaith fod camau pwysig wedi’u cymryd gan lywodraethau Thatcher i gryfhau statws yr iaith Gymraeg, roedd hi’n hollol wrthwynebus i ddatganoli. Fodd bynnag, yn ddiarwybod – fel y mae rhai o fy nghyfweliadau ar gyfer y rhaglen yn awgrymu – gwnaeth ei rôl fel ‘gelyn cyffredin’ i sosialwyr a chenedlaetholwyr yng Nghymru yn ystod y 1980au ddatganoli yn opsiwn llawer mwy atyniadol i nifer a bleidleisiodd ‘na’ yn 1979.”
Mae Dr Edwards yn addysgu modiwl o’r enw Prydain Thatcher yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac mae’n trafod agweddau o Thatcheriaeth gyda rhai o’i fyfyrwyr yn ystod y rhaglen. Fel y noda Peter Davies, myfyriwr PhD:
“Teimlaf fel rhywun a gafodd ei eni yn y 1990au y gallaf edrych ar deyrnasiad Thatcher yn fwy pwyllog. Gallaf werthfawrogi ei chryfderau fel arweinydd, tra ar yr un pryd gydnabod fod nifer o gymunedau Cymreig wedi profi proses of chwalfa yn ystod y 1980au.”
Mae gwleidyddion ac actifyddion amlwg yn cael eu cyfweld gan Dr Edwards ar y rhaglen, gan gynnwys: Canghellor Prifysgol Bangor a chyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas; yr actifydd iaith Toni Schiavone; Glyn Davies, AS Ceidwadol Trefaldwyn; a chyn AS Llafur Alyn a Dyfrdwy, Barry Jones.
Darlledwyd Thatcherism and Wales fel rhan o gyfres Histories of Wales ar Radio Wales ar Ionawr 2il 2014. Gellir gwrando ar y rhaglen ar y ddolen hon: http://www.bbc.co.uk/programmes/b03mnmbf
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2014