Astudiaeth Fewnfudo WISERD yn y newyddion
Mae astudiaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru), wedi darparu data newydd ar farn pobl Cymru am fewnfudo a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Trwy edrych ar gwestiynau am fewnfudo a ofynnwyd mewn prif arolygon dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae'r astudiaeth wedi canfod bod pobl yn gyffredinol yn cefnogi’n gryf y dylid lleihau nifer y mewnfudwyr i’r DU ond bod gwahaniaethau rhanbarthol amlwg hefyd ym marn pobl am fewnfudo.
Ymddengys bod y canlyniadau yn awgrymu tueddiad lle bo pobl yng Nghymru, canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr yn rhoi mwy o gefnogaeth i leihau mewnfudo a bod ganddynt farn fwy negyddol am effaith mewnfudo. Ar y llaw arall, mae patrwm gwahanol yn ymddangos yn Llundain, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle nad oes cymaint o gefnogaeth dros leihau mewnfudo a cheir barn mwy ffafriol am effaith mewnfudo.
Yn ôl Dr Robin Mann o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, “Mae hon yn astudiaeth ymchwiliol fach ac mae’n rhaid i ni gofio na ellir cymryd yr hyn a ddywed pobl mewn arolwg fel adlewyrchiad o sut mae pobl yn dod ymlaen gyda’i gilydd mewn cymunedau. Wedi dweud hynny, mae’r data yn rhoi darlun cyffredinol i ni o farn pobl am y syniad o fewnfudo".
Mae Dr Mann yn dadlau mai’r cwestiwn diddorol yw pam ei bod yn ymddangos bod llai o gefnogaeth dros leihau mewnfudo yn yr Alban nag yng Nghymru. “Mae’n ddiddorol o ran y byddem yn disgwyl i Gymru a’r Alban fod yn debyg, ond yr hyn a welwyd oedd bod Cymru yn nes at farn y mwyafrif yn y Lloegr nag y mae at yr Alban."
“Mae’r negeseuon oddi wrth lywodraethau Cymru a’r Alban wedi bod yn gryf o blaid mewnfudo ers nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith da a phwysig yn datblygu polisïau megis y Fforwm Mewnfudwyr a’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. Ond mae’n ymddangos bod pobl yn dal i fod ychydig yn anhapus gyda’r syniad o fewnfudo”.
“Efallai mai’r rheswm am y gwahaniaeth hwn yw bod gan yr Alban lais economaidd a gwleidyddol cryfach na Chymru, a bod yr Alban yn gosod ei hagenda ei hun ynglŷn â mewnfudo ac felly’n gallu ‘amsugno’r’ mathau hyn o deimladau gwrth-fewnfudo, er mai dim ond i ryw raddau y gwneir hynny”.
Cyhoeddwyd adroddiad terfynol yr astudiaeth ym mis Mai 2012. I gael rhagor o fanylion am yr ymchwil ac i weld yr adroddiad llawn, ewch i wefan y project.
Galwch weld fersiwn ar-lein o’r sylw a gafwyd yn y cyfryngau yma.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012