Bangor yn rhannu profiadau am ddatganoli Cymreig
Ddydd Gwener, 31 Mai 2019, aeth grŵp o ymchwilwyr o’r Ysgol, ac o’r brifysgol yn ehangach, i Awdurdod Cyfun Manceinion Ehangaf (GMCA – y corff sy’n cydlynu datganoli grymoedd i ardal Manceinion Ehangaf) er mwyn arwain gweithdy i rannu profiad Cymru o weinyddiaeth ddatganoledig.
Drwy amlinellu hanes datganoli yng Nghymru; drwy ddisgrifio problemau a chyfleoedd cyfredol wrth gyflwyno polisïau; a thrwy drafod y ddiffyg democrataidd sy’n codi pan nad yw’r cyhoedd yn deall strwythurau datganoledig, cynorthwyodd yr Athro Andrew Edwards, yr Athro Martina Feilzer, Dr Hayley Roberts, Dr Peter Shapely a Dr Ifan Morgan Jones staff yn y GMCA i feddwl am rai o’r heriau yr oeddent yn eu hwynebu yn yr ardal newydd ym Manceinion.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2019